Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i grwydro'n campysau hardd, gallwch gwrdd â staff academaidd a chael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhaglen Diwrnod Agored hyblyg a chyffrous yn rhoi digon o gyfle i chi weld ein cyfleusterau addysgu, dewisiadau llety, cyfleusterau chwaraeon a'r ystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae hefyd modd i chi gael cymorth ac arweiniad ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.

Ydych chi eisiau holi am fywyd myfyrwyr? Siaradwch gydag un o'n llysgenhadon myfyrwyr a fydd o gwmpas drwy gydol y dydd i ateb eich holl gwestiynau. Holwch ni hefyd am fywyd myfyriwr Cymraeg ar y campws ac am y gefnogaeth a'r clybiau a chymdeithasau Cymraeg sydd ar gael i chi.

Darllenwch ein tudalen Cwestiynau Cyffredin Diwrnodau Agored i gael gwybod popeth am ein diwrnodau agored.

Archebwch Ddiwrnod Agored

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r campws ar ein Diwrnod Agored lle gallwch gwrdd â'ch darlithwyr, archwilio Abertawe a sgwrsio gyda myfyrwyr presennol.

Dydd Sadwrn 15fed Mehefin yw ein diwrnodau agored nesaf.

Cynlluniwch eich Diwrnod.

Cadwch le ar 15fed Mehefin
Llysgennad myfyrwyr yn dal arwydd 'Yma i Helpu'

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiadau agored eraill

Yn ogystal â'n diwrnodau agored, mae yna hefyd nifer o ddigwyddiadau ar gyfer meysydd diddordeb penodol. Gobeithiwn eich gweld chi yno! 

Diwrnod Agored Gyrfaoedd y GIG

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gampws Parc Singleton ar gyfer ein Diwrnod Agored Gyrfaoedd y GIG ddydd Sadwrn 14eg o Fedi. Byddwch yn gallu darganfod mwy am ein hystod o raglenni a Ariennir gan y GIG yn ogystal â'n graddau israddedig Llwybrau at Feddygaeth.

Archebwch eich lle
Ymarfer yr Adran Llawdriniaeth

Digwyddiadau Yn Y Dyfodol

Ein digwyddiadau nesaf ar y campws fydd:

Dydd Sadwrn 19 o Hydref 2024
Dydd Sadwrn 9 o Dachwedd 2024

Cofrestrwch eich manylion isod i gael gwybod pryd bydd cofrestriadau am ddigwyddiadau yn y dyfodol yn agor.

Cofrestrwch eich diddordeb yn ein Diwrnod Agored nesaf
Llun o Gampws Parc Singleton

Darllenwch y newyddion diweddaraf ar ein ffrwd cyfryngau cymdeithasol