Trosolwg gan Jessica Evans

Sefydlwyd y fenter 'Flip the Streets' gan Dr Lella Nouri o Brifysgol Abertawe. Dechreuodd y prosiect ym mis Mai 2023, wedi'i ariannu'n wreiddiol gan Race Council Cymru a nawr mae yn yr ail gyfnod o gael ei ariannu trwy Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe. Prif amcanion y grŵp yw:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dileu delweddau ac iaith casineb o gymunedau.
  • Grymuso pobl ifanc lleol a chymunedau ehangach i weld eu safbwyntiau a'u gwerthoedd yn cael eu cynrychioli.
  • Gwireddu’r nod o ddarparu llwyfan ar gyfer grwpiau cymunedol i gymryd rheolaeth a dileu ymddygiad a delweddau casineb o fewn eu cymunedau.
  • Darparu ymateb rhagweithiol i iaith a throseddau casineb drwy gynnwys aelodau o'r gymuned wrth greu gwaith celf i guddio achosion o fandaliaeth.

Mae'r prosiect, sy'n gweithio ochr yn ochr â Fresh Creative, yn defnyddio mentrau sydd wedi'u hysbrydoli gan gelf i ddarparu a chyflwyno ar brosiectau. Erbyn hyn yn Abertawe, mae'r cydweithrediad hwn wedi cynnwys digwyddiadau a gynhaliwyd yn Hyb Evolve yng Ngorseinon, Canolfan Gymunedol Trefansel ac yn ddiweddar yng nghanol dinas Abertawe. 3. Nod y digwyddiadau hyn yw defnyddio graffiti casineb fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth â grwpiau cymunedol â'r pwrpas o ddad-normaleiddio casineb a defnyddio cynrychiolaeth gadarnhaol o graffiti, wedi'i chreu gan y grwpiau cymunedol sy'n cymryd rhan, i arddangos gwaith celf pryfoclyd sy'n wynebu ac yn beirniadu casineb yng Nghymru.

Mae prosiectau blaenorol wedi denu amrywiaeth eang o wirfoddolwyr a chyfranogwyr, yn cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru, Cyngor Abertawe, Heddlu Gwrthderfysgaeth, Cynghorwyr lleol, a gweithwyr ieuenctid o Evolve.

Flip the Streets - Canol Dinas Abertawe

mural

Prosiect Fflip y Strydoedd