Abaty Singleton

Yn unol â Chôd Llywodraethu AU Pwyllgor y Cadeiryddion Prifysgol (CUC), sy'n nodi bod yn rhaid i brifysgolion gynnal adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd llywodraethu bob tair blynedd, comisiynodd y Cyngor Adolygiad Effeithiolrwydd Annibynnol gan AUA Consulting yn 2023.  Casgliad yr Adolygiad hwn oedd y gellid cadarnhau â chryn sicrwydd fod trefniadau llywodraethu'r Brifysgol yn effeithiol ac nad oedd unrhyw faterion o safbwynt llywodraethu y byddai angen rhoi sylw iddynt, a bod y Cyngor yn cynnal ei weithgareddau'n unol â'r Côd AU. Casglwyd hefyd fod y ffaith bod y Brifysgol wedi cynnal yr adolygiad hwn yn dangos ei hymrwymiad i wella ei threfniadau llywodraethu'n barhaus yn unol â'r arferion gorau a nodwyd yn y Côd AU. Gwnaeth yr adolygwyr hefyd gydnabod bod y Brifysgol wedi rhoi nifer o welliannau ar waith ers yr adolygiad effeithiolrwydd diwethaf yn 2019. Er i rai cyfleoedd ar gyfer gwelliannau gael eu nodi yn adolygiad 2023, pe bai'r Cyngor yn penderfynu peidio â'u rhoi nhw i gyd ar waith ar yr adeg hon, ni fyddai hynny'n tanseilio cadernid trefniadau llywodraethu'r Brifysgol.  

Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi maes o law ond gellir gofyn am gael copi gan Ysgrifennydd y Brifysgol, Ms Louise Woollard, y gellir cysylltu â hi drwy e-bostio L.A.Woollard@abertawe.ac.uk

Amserlennir cynnal yr adolygiad nesaf o effeithiolrwydd llywodraethiant yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26. 

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i barhau i fod yn gydnaws â chodau llywodraethiant perthnasol a gweithredu argymhellion CCAUC, Côd Llywodraethiant Addysg Uwch CUC (Medi 2020) a’r Siarter a’r Ymrwymiadau Llywodraethiant, yn dilyn yr adolygiad annibynnol o lywodraethiant yng Nghymru, o dan arweiniad Gillian Camm ym mis Rhagfyr 2019