Croeso i Academi Hywel Teifi
Mae Academi Hywel Teifi yn sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol ac un o fawrion y genedl, Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Mae'r Academi yn sefydliad unigryw ac y gorff sydd yn fwy na swm ei rhannau sef tair uned benodol:
- Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol
- mae'r Uned hon hefyd yn cynnwys;
- Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe
- Uned Gyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith
Yn ogystal â grymuso statws a defnydd y Gymraeg, gweledigaeth yr Academi yw cefnogi myfyrwyr o bob oedran a chefndiroedd addysgiadol, diwylliannol a sosio-economaidd i ddysgu’r Gymraeg neu ddatblygu eu sgiliau yn yr iaith. Mae’n gweithio hefyd i hybu cyfleoedd a buddiannau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â chyflwyno a dathlu ei diwylliant. Mae darparu addysg yn yr iaith Gymraeg yn greiddiol i waith a strategaeth Prifysgol Abertawe oherwydd rôl arweiniol y sefydliad yn y Gymru gyfoes, ei chyfrifoldeb yn rhanbarthol a chenedlaethol, a’i chyfrifoldeb statudol.
Mae gwaith yr Academi wedi'i rannu'n dair thema - Dysgu, Datblygu a Dathlu. Cliciwch ar yr opsiynau isod i ddysgu mwy.