Gall yfed diodydd sydd wedi’u melysu â siwgr yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf yn ystod plentyndod fod yn gysylltiedig â phatrymau deiet gwael sy’n cynyddu’r risg o ordewdra’n ddiweddarach mewn bywyd, yn ôl astudiaeth newydd gan Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.
Roedd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, European Journal of Clinical Nutrition, yn olrhain dylanwad deiet ar 14,000 o blant Prydeinig o adeg eu geni tan iddynt dyfu'n oedolion a chredir mai dyma'r astudiaethau hiraf o'i bath sydd erioed wedi cael ei chyhoeddi.
Gan ddefnyddio'r astudiaeth, Avon Longitudinal Study of Parents and Children, gwnaeth y tîm ymchwil ddarganfod y canlynol:
- Magodd plant a yfodd ddiodydd pefriog megis Coca-Cola neu ddiodydd ffrwythau wedi'u melysu â siwgr cyn iddynt droi'n ddwy flwydd oed fwy o bwysau pan oeddent yn 24 oed. Magodd merched a yfodd sudd ffrwythau pur lai o bwysau, er bod pwysau'r bechgyn wedi aros yr un peth.
- Yn dair blwydd oed, roedd plant ifanc a yfodd Coca-Cola'n bwyta mwy o galorïau, braster, protein a siwgr ond llai o ffibr. Ar y llaw arall, roedd y rhai hynny a yfodd sudd afal pur yn bwyta llai o fraster a siwgr ond llawer mwy o ffibr.
Amlygodd yr astudiaeth hefyd y gwahaniaethau cyfatebol o ran dewis bwydydd. Dilynodd y plant a yfodd sudd afal pur ddeiet a oedd yn cynnwys mwy o bysgod, ffrwythau, llysiau gwyrdd a salad yn aml, gan fod y rhai hynny a yfodd Coca-Cola'n bwyta mwy o fyrgyrs, selsig, pizza, sglodion, cig, siocled a losin.
Yn ogystal â hynny, gwnaeth y tîm ddarganfod cysylltiad rhwng diodydd sydd wedi'u melysu â siwgr ac amddifadedd cymdeithasol oherwydd roedd plant o gefndiroedd cyfoethog yn fwy tebygol o gael mynediad at sudd ffrwythau pur.
Meddai'r prif ymchwilydd, yr Athro David Benton: “Mae'r deiet cynnar yn sefydlu patrwm bwyd sy'n dylanwadu ar y tebygolrwydd o fagu pwysau gydol oes. Yr her bwysig yw sicrhau bod plentyn yn meithrin arfer ddeietegol dda: dyna un sy'n cynnig llai o fraster a siwgr, er bod sudd ffrwythau pur, sy'n un o'ch pum y dydd, yn ychwanegu fitamin C, potasiwm, asid ffolig a pholyffenolau planhigion."
Ychwanegodd Dr Hayley Young: “Mae gordewdra'n broblem iechyd ddifrifol, ac yn un sy'n cynyddu'r risg o ddatblygu llawer o gyflyrau eraill. Mae ein hastudiaeth yn dangos bod yr achosion deietegol o ordewdra mewn oedolion yn dechrau'n gynnar yn ystod plentyndod ac, os ydym yn bwriadu rheoli hyn, mae'n rhaid talu mwy o sylw i'n deiet ym mlynyddoedd cyntaf ein bywyd."