Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi am yrfa mewn sector sy’n ehangu’n gyflym iawn? Awyddus i weithio mewn diwydiant byd-eang arloesol lle bydd gofyn mawr am eich sgiliau?
Mae technolegau sy’n tarfu yn effeithio ar bob maes gwasanaethau ariannol ac er mwyn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau i ddod ymlaen yn y maes hwn, mae’r rhaglen MSc mewn Technoleg Ariannol (FinTech) wedi cael ei datblygu ar gyfer graddedigion nad ydynt yn arbenigwyr mewn cyfrifiadureg, sydd â gradd gyntaf mewn busnes, cyllid, mathemateg neu economeg ac sydd eisiau meithrin rhagor o ymwybyddiaeth a sgiliau ym maes Technoleg Ariannol.
Bydd y rhaglen hon yn ystyried defnydd technoleg ariannol ym myd bancio, yswiriant, rheoli asedau a llawer o sectorau ariannol eraill. Byddwch yn cael gwybodaeth arloesol am ddefnydd technoleg ‘blockchain’, arian digidol, Data Mawr a deallusrwydd artiffisial yn y byd ariannol.
Hefyd, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o amgylchedd technoleg ariannol, yn meithrin sgiliau o ran rhaglennu, dysgu gan beiriannau a diogelwch rhwydweithiau yn ogystal â gwybodaeth am sefydliadau a systemau’r marchnadoedd ariannol.