Mae Campws Parc Dewi Sant yn Nghaerfyrddin yn un o'n campysau cysylltiol. Ar y safle hwn, rydyn ni'n cynnig Nyrsio Oedolion ac ystod o fodiwlau ôl-gofrestru ac ôl-raddedig. Mae Parc Dewi Sant yn cynnig profiad addysgol o safon uchel i fyfyrwyr yng ngorllewin Cymru mewn lleoliad hygyrch.
Mae Parc Dewi Sant yn cynnwys ystafelloedd ymarfer, ystafelloedd efelychu, ystafell OCSE, darlithfa, ac ystafelloedd dosbarth yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod a'n canolfan adnoddau dysgu gan gynnwys mynediad at gyfrifiaduron a chymorth llyfrgellydd.
Cyfeiriadau i'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Adeilad 3
O gylchfan Pensarn ar ddiwedd yr A48, cymerwch yr allanfa dros Bont Lesneven tuag at Sanclêr.
Wrth y gylchfan nesaf (B&Q), cymerwch yr ail allanfa (ar y dde) tuag at ganol tref Caerfyrddin.
Wrth y gylchfan nesaf, cymerwch yr allanfa gyntaf ac ewch heibio siop Tesco. Teithiwch yn syth ymlaen wrth y goleuadau traffig.
Wrth y gylchfan fach, cymerwch yr allanfa gyntaf; ewch heibio Cofeb Picton a pharhewch i oleuadau traffig Tre Ioan. Trowch i'r dde wrth y goleuadau i Heol Ffynnon Jôb.
Ewch yn syth ymlaen - bydd Parc Dewi Sant ar yr ochr chwith ar frig y bryn (ceir arwyddbost).
Google Map: https://goo.gl/maps/8pRYjLQ1oLSewY6o7
Cyfeiriad: Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Jôb, Caerfyrddin, SA31 3HB