Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

Tu allan i'r Babell Lên ar faes yr Eisteddfod 2023

Presenoldeb Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf rhwng 3-10 Awst 2024.

Ymhlith digwyddiadau’r Babell Lên a drefnir gan y Brifysgol eleni, mae:

'Taran ei Theatr ni Thewir': Cofio Siôn Eirian | Dydd Llun 5 Awst, 12.30pm

Jon Gower, Betsan Powys, Alun Wyn Bevan, Geraint Lewis a Guto Davies yn cofio'r dramodydd, bardd a'r awdur Siôn Eirian, a fu farw yn 2020.

Ar Drywydd Brynley Roberts: Aberdâr, Abertawe ac Aberystwyth | Dydd Mawrth 6 Awst, 12.30pm

Robert Rhys, Gwerfyl Pierce Jones a Rhidian Griffiths yn trafod cyfraniad aruthrol Brynley Roberts i ddiwylliant Cymreig fel un o ysgolheigion mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth.

Hiraethu am Heimaey: Colli cymunedau, iaith a thraddodiadau yng Ngwlad yr Iâ | Dydd Mercher 7 Awst, 12.30pm

Dr Rhian Meara o’r Adran Ddaearyddiaeth a’r awdur arobryn Manon Steffan Ros yn edrych ar effeithiau dynol a chymdeithasol yn dilyn echdoriad annisgwyl ger tref ar Ynys Heimaey, a hynny drwy waith ymchwil ac ysgrifennu creadigol.

Darlith Goffa Hywel Teifi – yr Athro Daniel G. Williams | Dydd Iau 8 Awst, 11.30am

Yr Athro Daniel G. Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn traddodi'r ddarlith flynyddol er cof am yr Athro Hywel Teifi. Testun y ddarlith fydd ‘O'r Rhondda i Canaan: J Gwyn Griffiths, Gwyn Thomas ac Exodus’.

Yn dilyn y ddarlith, cynhelir derbyniad yn Ystafell Gynadledda Lido Pontypridd i gyn-fyfyrwyr, staff a chyfeillion Prifysgol Abertawe, lle darperir lluniaeth ysgafn.

Pobol a Phryfed | Dydd Gwener 9 Awst, 12.30pm

Yr actor ar awdur Andrew Teilo sy’n fwyaf adnabyddus  am chwarae cymeriad Hywel Llywelyn yn Pobol y Cwm fydd yn sgwrsio am ei yrfa gyda'r Athro Tudur Hallam o Adran y Gymraeg, a’i brofiad yn ysgrifennu ei gasgliad o straeon byrion Pryfed Undydd yn dilyn ei gyfnod yn astudio ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.  

Meddai’r Athro Gwenno Ffrancon, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a'i Diwylliant a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Mae Prifysgol Abertawe'n falch unwaith eto eleni o noddi a churadu rhai digwyddiadau yn y Babell Lên ac mae cryn edrych ymlaen ymhlith ein staff a'n myfyrwyr at ymweld ag Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 a Pharc Ynys Angharad. Yn ôl ein harfer byddwn yn llwyfannu rhai o'n doniau creadigol ac yn amlygu gwaith rhai o'n hysgolheigion disgleiriaf gan gymryd ein lle yn falch ynghanol bwrlwm y Maes. Edrychwn ymlaen at groesawu cyfeillion hen a newydd i'r Babell Lên ac i Lido Pontypridd ar gyfer ein derbyniad i gyn-fyfyrwyr."

Bydd cyfle hefyd i weld staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn serennu mewn sesiynau eraill ar hyd y Maes drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys:

Dydd Llun 5 Awst, 12pm – 4pm | Pabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd Ben Walkling, myfyriwr PhD o’r Adran Ddaearyddiaeth yn gwneud cyflwyniad i'r tipiau glo, ac yn cynnal gweithgareddau gyda phobl ifanc.  

Dydd Mawrth 6 Awst, 10am | Pabell Cymdeithasau 

Blwyddyn o Sebra - Sgwrs banel gyda thri o awduron Sebra yn trafod eu cyhoeddiadau gyda’r wasgnod newydd. Un o'r tri bydd Mari George, cyn-fyfyrwraig Prifysgol Abertawe, ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2024 gyda'i nofel gyntaf i oedolion Sut i Ddofi Corryn.  

Dydd Mawrth 6 Awst, 1pm | Amgueddfa Pontypridd  

Dr Gethin Matthews o’r Adran Hanes yn cyflwyno ‘Dim rhagor o enwau!’: Cofebau rhyfel yn ysbrydoli disgyblion o chwe ysgol leol i greu teyrngedau creadigol.  

Dydd Mawrth 6 Awst, 3 pm | Cymdeithasau

Sharon Jones o’r Adran fydwreigiaeth yn rhan o sgwrs banel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y testun 'Beth nesaf o ran y Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol?'

Dydd Mawrth 6 Awst, 5pm |  Sinemaes

 Dr Elain Price, Uwch-ddarlithydd y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn cadeirio sgwrs am ‘Rhosyn a Rhith’ a ffilmiwyd yn yr ardal, gyda’r actores a’r awdur Mari Emlyn a phennaeth ffilm a drama S4C, Gwenllian Gravelle, cyn dangosiad o’r ffilm ei hun.

Dydd Mercher 7 Awst, 10.30am | Cymdeithasau

Wrth i’r rhaglen radio Caniadaeth y Cysegr ddathlu 75 mlynedd o ddarlledu, Dr Non Vaughan Williams, Uwch-ddarlithydd y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe, ac un o gyn-gynhyrchwyr a chyflwynwyr y rhaglen, fydd yn trafod pwysigrwydd a chyfraniad y rhaglen.

Dydd Mercher 7 Awst, 2.10pm |  Pafiliwn 

Elinor Staniforth, un o diwtoriaid Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2024. Cyhoeddir enw’r enillydd yn y seremoni.  

Dydd Mercher 7 Awst, 4pm | Pabell Cymdeithasau 

Yr Athro Siwan Davies o’r Adran Ddaearyddiaeth yn cyflwyno Darlith Cymdeithas Edward Llwyd - 'Yr argyfwng hinsawdd: Mae'n amser deffro', gan roi cipolwg ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am yr argyfwng hinsawdd, yr effeithiau a’r rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol.

Dydd Iau 8 Awst, 12.30pm | Y Pafiliwn

Cyflwynir y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf i Dr Rhodri Jones, cyn-fyfyriwr Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe a ennillodd PhD mewn Ffiseg Atomig a Laser. Mae'n ennill y Fedal am ei waith i sicrhau bod pelydrau'n rhedeg yn gyflym a chywir mewn peiriant anferth tanddaearol.

Gwyliwch y fideo sy'n coffáu camp Hywel Teifi o’r newydd