Esther Harper yw enillydd yr Her a deiliad tlws Her Sefydliad Morgan 2024

Esther Harper o Ysgol Gyfun Ystalyfera gyda'r Athro Trystan Watson a Heledd Sion

Cystadleuaeth ddadl gyhoeddus Gwyddonle 2024

Ers chwe mlynedd bellach mae Her Sefydliad Morgan wedi bod yn un o brif atyniadau llwyfan y GwyddonLe, Pafiliwn Gwyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Prifysgol Abertawe sy’n noddi ac yn cynnal gweithgareddau yn y GwyddonLe ac mae’r Her yn gystadleuaeth ddadl gyhoeddus i ddisgyblion ysgol blwyddyn 10 i 13. Noddir yr Her gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan, canolfan yn y Brifysgol sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol.

Eleni, yr Athro Trystan Watson o Ysgol Peirianneg Prifysgol Abertawe, gafodd y fraint o osod y testun trafod sef, “Dyfodol Di-garbon i Gymru: Breuddwyd neu Realiti?”. Bu’r Athro Watson hefyd yno yn beirniadu’r gystadleuaeth gyda’i gyd-feirniad Heledd Siôn, sy’n newyddiadurwraig gyda thîm newyddion BBC Radio Cymru.

Daeth tair ysgol i gystadlu yn erbyn ei gilydd gyda dau gynrychiolydd o bob ysgol yn cyflwyno dadleuon o blaid ac yn erbyn y pwnc. Agorwyd y gystadleuaeth gan Esther Harper o Ysgol Gyfun Ystalyfera, oedd yn siarad o blaid dyfodol di-garbon i Gymru ac yna Callie Davies o Ysgol Gyfun Bryn Tawe oedd yn cyflwyno’r dadleuon yn erbyn y gosodiad. Wedi i’r beirniaid gael cyfle i holi cwestiwn iddynt, tro Bryn Geary o Ysgol Gwent Is Coed oedd perswadio’r gynulleidfa mai realiti yw dyfodol di-garbon, ac Amelia Sivertsen o Ysgol Gyfun Ystalyfera oedd yn dadlau yn erbyn. Yn cau’r gystadleuaeth cyflwynodd Hari James, Ysgol Gyfun Bryn Tawe, ei araith o blaid y testun a Callum Ford o Ysgol Gwent Is Coed gafodd y gair olaf yn ei erbyn.

Roedd y chwe chystadleuydd wedi dangos doniau rhesymu a dadlau gwych ac ateb cwestiynau’r beirniaid yn fedrus ac yn hyderus. Tasg anodd iawn i’r beirniaid oedd dewis y goreuon gan ddweud mai trwch blewyn yn unig oedd rhwng pob un ohonynt. Ond, merched Ysgol Gyfun Ystalyfera aeth â hi gan ennill gwobr o £500 i’r ysgol, gydag Amelia yn ennill y Siaradwr Gorau yn Erbyn y Pwnc ac Esther y Siaradwr Gorau o Blaid. Dyfarnwyd mai Esther hefyd oedd Enillydd yr Her a deiliad tlws Her Sefydliad Morgan 2024.

Meddai’r Athro Trystan Watson, “Pleser oedd bod yn rhan o gystadleuaeth Her Sefydliad Morgan eleni. Roedd safon y gystadleuaeth mor uchel ac angerdd y cystadleuwyr am y pwnc yn amlwg, doedd hi ddim yn benderfyniad hawdd i ni fel beirniaid! Roedd pob un o’r bobl ifanc wedi cyflwyno’u dadleuon yn ddeallus ac yn glir ac wedi ymchwilio i’r testun a throsglwyddo’r wybodaeth mewn ffordd huawdl tu hwnt. Syfrdanwyd Heledd a fi mewn gwirionedd gan y chwe chystadleuydd. Mae dyfodol disglair o flaen pob un ohonynt.”

 

 

Lluniau Gwyddonle 2024

Untitled