Y Porth
Llwyfan e-ddysgu cydweithredol y Coleg yw'r Porth. Fe'i sefydlwyd yn 2009 er mwyn annog Prifysgolion i rannu adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg gyda'i gilydd. Yn sgil hynny, mae wedi datblygu yn ffocws hollbwysig ar gyfer astudio ac addysgu cyrsiau Prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r Porth yn seiliedig ar Blackboard ac yn agored i staff a myfyrwyr yn holl brifysgolion Cymru.
Mae'n cynnwys:
- Adnoddau a deunyddiau electronig
- Oriel gwe
- Modiwlau a deunyddiau cefnogol
- Porth chwiliadwy o dermau ar gyfer addysg uwch
Er bod y Porth yn cynnwys nifer o adnoddau agored, mae angen cofrestru fel defnyddiwr er mwyn cael mynediad at rai adnoddau e.e modiwlau penodol.
Mae'r broses o gofrestru fel defnyddiwr ar y Porth yn rhwydd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar wefan Y Porth.