"Penderfynais astudio am radd Meistr oherwydd roeddwn am ymestyn fy hun! Roeddwn hefyd am ‘gymhwyso’, rywfodd, yn y Gymraeg, neu, yn y man lleiaf, ddefnyddio’r Gymraeg fel cerbyd i’m hastudiaethau. Yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, roeddwn yn rhy oriog fel disgybl ysgol i benderfynu ar lwybr bywyd i mi fy hun, ac yn fuan wedyn cymerai fy mywyd proffesiynol fy holl egni, a hynny am nifer fawr o flynyddoedd. Er hynny, ro’n i’n ymwybodol iawn ar hyd yr amser fy mod wedi ‘gadael rhywbeth ar ei ôl’; gadael hefyd i ryw gyfle amhenodol ddianc trwy fy nwylo, fy mod heb wireddu rhyw ‘botensial’. Yn fras, ymgais i unioni hynny oedd fy mhenderfyniad i geisio gradd MA i mi fy hun.
Mae’r dyniaethau drwyddynt draw o ddiddordeb mawr imi, ond, wedi imi drafod gyda’m cyfarwyddwyr cwrs, penderfynais y byddai’r stori fer yn faes gwerthchweil iawn imi ymdrochi ynddo; mae gen i gariad mawr at lenyddiaeth, ac yn hoff iawn o’r ffurfiau cryno. Ffuglen, o fath gwahanol, yw fy myd, a storïau’n ymwneud â’r cyflwr dynol yn fara menyn imi. Mae actor yn treulio oes yn dehongli sgriptiau, ac yn chwilio am y gwirionedd yng ngeiriau eu hawduron. Teimlais, felly, fy mod wedi fy mharatoi’n dda at fy astudiaethau.
Mae astudio’n sbort! Dewisa faes sydd yn dy gynhyrfu, tafla dy hun i ganol y gwaith, a phaid â bod ofn arbrofi â syniadau a chyfeiriadau! Cei addysg, gofal a chyngor heb ei ail ym Mhrifysgol Abertawe, a phrofiadau addysgol fydd yn aros gyda ti am byth."