Sut allwn ni helpu?
Os ydych yn edrych am gymorth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg eich gweithle, mae ein gwasanaeth yn cynnig cyngor cynhwysfawr i’ch helpu i gynllunio rhaglen hyfforddi addas. Cynigir yr hyfforddiant yn eich gweithle.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Safonau Iaith Gymraeg newydd; mae’r rhain wedi cymryd lle’r cynlluniau iaith Gymraeg. Bydd rhaid i sefydliadau cyhoeddus a rhai sefydliadau preifat a thrydedd sector gydymffurfio â’r Safonau hyn. Bydd rhaid i weithleoedd ddarparu hyfforddiant iaith Gymraeg i’w gweithlu, rydym yma i’ch helpu chi.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gweithle Cymraeg ar lefelau gwahanol sy’n cael eu:
- Teilwra at anghenion eich gweithle
- Trefnu ar amser sy’n gyfleus i chi
- Cynnig yn eich gweithle
- Cynnig am gost resymol iawn
- Darparu ar gyfer grŵp o unrhyw faint, mawr neu fach, hyd yn oed hyfforddiant i unigolion
- Dysgu gan diwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi i’r radd uchaf, yn brofiadol ac yn ymroddedig
Mae rhoi’r cyfle i’ch gweithle ddysgu Cymraeg yn creu ewyllys da ymhlith eich gweithwyr; bydd hyn hefyd yn eich gwneud yn fwy cystadleuol fel busnes. Mae cael gweithlu dwyieithog yn eich galluogi i:
- Gael mantais gystadleuol
- Derbyn ewyllys da a theyrngarwch gan gwsmeriaid
- Gwella ansawdd eich gwasanaeth
- Tyfu ac ennill mwy o gwsmeriaid.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Emyr Jones, Swyddog Datblygu, emyr.jones@abertawe.ac.uk / 01792 602643
Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe - lefel Mynediad (a thu hwnt!)
Rydym yn cynnig gwersi Cymraeg am ddim i staff y brifysgol, er mwyn cefnogi academyddion a staff gweinyddol/ cefnogi i ddysgu Cymraeg. Trwy nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a chyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae’r cynllun ar gael am y seithfed flwyddyn o’r bron.
Mae’r cynllun yn cael ei weithredu gan staff o uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Bydd y dosbarthiadau yn cael eu dysgu ar-lein gydag ambell sesiwn gefnogi ychwanegol wyneb yn wyneb.
Rydym yn cynnig yr ystod lawn o lefelau, o ddechreuwyr pur (Mynediad) i Sylfaen, Canolradd, Uwch ac Hyfedredd.
Bydd y dosbarthiadau yn wersi wythnosol ar-lein (2 awr X 32 wythnos) gyda’r dysgwyr yn cwblhau gwaith rhwng y gwersi. Gall hyn gyflymu’r cynnydd a galluogi dysgwyr i brofi’r buddion yn gynt. Dylai staff sydd â diddordeb drefnu gyda’u rheolwr llinell er mwyn cael eu rhyddhau am 2 awr yr wythnos yn ogystal ag amser ychwanegol bob wythnos (tasgau ar-lein annibynnol / paratoi / adolygu) am gyfnod o 32wythnos (rhwng Medi 2024 a Gorffennaf 2025).
I gofrestru cliciwch ar un o’r dolenni isod yn unig. Yn gyntaf bydd gofyn i chi greu cyfrif gyda Dysgu Cymraeg – gallwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost personol neu un y brifysgol i gofrestru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru'n gywir anfonir e-bost cadarnhau atoch gyda diwrnod/amser y dosbarth. Anfonwch hwn ymlaen at emyr.jones@swansea.ac.uk
Rydym wedi trefnu cyfarfodydd i’ch helpu i gofrestru a’ch paratoi ar gyfer dechrau'r cyrsiau ar lein ym mis Medi. Bydd y sesiynau hyn yn sicrhau bod gennych y cwrslyfr a’r adnoddau perthnasol:
Dydd Iau 18fed 13:00-14:00 NEU Dydd Llun 22ain 12:00- 13:00
I ymuno â chyfarfod, cliciwch ar y ddolen Zoom:
https://swanseauniversity.zoom.us/j/95443419992?pwd=VkM4MVFzQmxtYm41WWpETzNueUw5QT09
Meeting ID: 954 4341 9992
Passcode: 916357
………………………………………………………………………………
Dysgu trwy diwtor yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu iaith a dylai fod yr opsiwn a ffefrir bob amser. Fodd bynnag, os na allwch ymrwymo i’r naill na’r llall o’r gwersi wythnosol, gallwn gynnig cwrs hunan-astudio. Er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol eich bod yn ymrwymo i astudiaeth annibynnol wythnosol (un uned / wythnos = tua 2 awr) er mwyn gallu cael mynediad i sesiynau ymarfer / cymorthfeydd rheolaidd a fydd yn edrych ar flociau o 3 uned gydag Emyr Jones. Ni ddylai hyn gael ei ystyried yn opsiwn hawdd gan ei fod yn cymryd ymrwymiad gwirioneddol i lwyddo.
Dolen Cofrestru Mynediad Hunan-astudio:
https://learnwelsh.cymru/learning/course/72354f72-9338-ef11-991b-d54af48c631c/
Cynhelir cyfarfod i’ch helpu i gofrestru a’ch paratoi ar gyfer dechrau'r cwrs hunan-astudio ym mis Medi gan sicrhau eich bod yn deall gofynion y cwrs a’r lefel o ymrwymiad:
Dydd Llun 22ain 13:00-14:00
I ymuno â chyfarfod, cliciwch ar y ddolen Zoom:
https://swanseauniversity.zoom.us/j/95443419992?pwd=VkM4MVFzQmxtYm41WWpETzNueUw5QT09
Meeting ID: 954 4341 9992
Passcode: 916357
………………………………………
Dosbarthiadau dilynol – manylion a dolenni ymgofrestru:
Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch ag emyr.jones@swansea.ac.uk
Fwy am y cynllun
Mae’r cynllun yma, ynghŷd â chyrsiau eraill a gynigir gan uned Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, yn cefnogi amcanion strategol y Brifysgol trwy:
- wella sgiliau iaith Gymraeg staff y brifysgol;
- ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg;
- ehangu profiadau i fyfyrwyr a rhanddeiliaid; a
- hybu a dathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Mae rhai o’ch cyd-weithwyr eisoes wedi elwa’n fawr o’r cynllun hwn dros y tair mlynedd ddiwethaf – dyma sydd gyda nhw i’w ddweud:
“…ffordd wych i fynd i’r afael â’r iaith o fewn grŵp mawr…”
“mae’r cyrsiau wedi’u strwythuro’n dda… llawer o ryngweithio a chwestiynau, mewn awyrgylch gyfeillgar …”
“mae’r cwrs wedi fy helpu i gyfieithu cynnwys cyfryngau cymdeithasol dw i’n ei greu ar gyfer yr adran….a rhoi’r hyder i mi ddechrau siarad Cymraeg gyda fy ngwraig hefyd”
“Mae astudio Cymraeg ar-lein wedi rhoi hyder i mi ddechrau cyfathrebu gyda chyd-weithwyr yn Gymraeg trwy e-bost. Er nad ydym gyda’n gilydd ar hyn o bryd, mae’r cwrs wedi cynnig y cyfle i mi wireddu fy mreuddwyd o ddysgu’r iaith , gan ddechrau cynnal sgyrsiau syml y gallwn ‘mond wedi breuddwydio eu cael y llynedd. Alla i ‘mond canu clod i’r cwrs yma.”
“Mae'r cwrs wedi gloywi'n iaith sydd wedi fy ngalluogi i deimlo'n fwy cyfforddus a hyderus i'w defnyddio'n swyddogol gan gynnwys ysgrifennu yn y Gymraeg.” (siaradwr Cymraeg)
Edrychwn ymlaen at helpu mwy o staff y Brifysgol i fwynhau dysgu’r Gymraeg a’i defnyddio o fewn y gweithle.