Diwrnod Profiad Ysgol Cyfrwng Cymraeg - Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, (all age school), Heol Ynysydarren, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, SA9 2DY, ddydd Iau, 4 Gorffennaf rhwng 10.00am ac 2.00pm.
Dyma amlinelliad o’r profiadau y cewch chi yn ystod eich ymweliad:
- Trosolwg o’r rhaglenni TAR a chefnogaeth y Gymraeg - staff Ysgol Gymraeg Ystalyfera a'r Brifysgol
- Profiadau athro newydd gymhwyso ar ein rhaglen TAR
- Arsylwi gwersi cynradd ac uwchradd
- Cyflwyniad gan Addysgwyr Cymru
- Panel disgyblion
- Sesiynau holi ac ateb
I archebu lle, dylid e-bostio Dr Lowri Williams, Cydlynydd Darpariaeth y Gymraeg ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, erbyn dydd Llun, 1 Gorffennaf 10am Cadwch Eich Lle Yma
Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd - 11 Gorffennaf 6.00-7.30pm
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd! Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm TAR, ein myfyrwyr a'r ysgolion sy'n bartneriaid â ni yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ganfod mwy am astudio gyda ni o fis Medi 2024! Cadwch Eich Lle Yma