Elin Jones - TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg
Mynychais Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin lle astudiais Fathemateg, cerddoriaeth a Chymraeg cyn dod i Brifysgol Abertawe i astudio gradd mewn Mathemateg. Astudiais y cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg a graddiais eleni gyda dosbarth cyntaf. Ers yn ifanc roeddwn yn gwybod fy mod eisiau bod yn rhan o’r byd addysg a chael y cyfle i addysgu pobl ifanc, a chan fy mod yn mwynhau Mathemateg gymaint, roedd yn ddewis naturiol i hyfforddi ar gyfer addysgu yn y maes hwnnw. Fy nod yw cymhwyso i ddod yn athrawes Mathemateg trwy’r Gymraeg. Mae’r cwrs TAR hwn ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn rhan o grŵp astudio traws gwricwlaidd Cymraeg, cael gwersi Cymraeg i loywi fy iaith, ond yn bwysicach na dim, i fynychu ysgolion Cymraeg fel rhan o fy hyfforddiant ar leoliad ac i gwblhau ac ysgrifennu fy aseiniadau yn y Gymraeg hefyd.
Fe wnes i ymweld â nifer o brifysgolion o gwmpas Cymru sy’n cynnig cwrs TAR gan fy mod eisiau parhau i dderbyn cymaint o fy addysg yn y Gymraeg ag y gallaf, a hefyd i gael y cyfle i gymdeithasu trwy’r Gymraeg. Roeddwn i’n gwybod yn syth ar ôl cwblhau fy ymchwil mai parhau i astudio ym Mhrifysgol Abertawe oedd y dewis i mi. Mae’r campws yn gartrefol tu hwnt, y cyfleusterau addysgu yn rhagorol, darpariaeth a chefnogaeth addysgiadol ar gael trwy’r Gymraeg, a chymdeithas Gymraeg glos a bywiog. Gyda’r traeth ar stepen eich drws, does unman gwell i fyw ynddo ac i dderbyn eich addysg.
Gan fy mod wedi cael gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg, rwyf am dderbyn grant cymhelliant o £20,000 gan Lywodraeth Cymru am hyfforddi i ddysgu Mathemateg yng Nghymru. Mae yna hefyd gyfle i dderbyn £5,000 ychwanegol gyda chynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory y Llywodraeth os af i ymlaen i addysgu trwy’r Gymraeg.
Rwy’n berson amyneddgar yn y bôn, ac felly rwy’n credu y bydd hyn o fudd mawr i mi wrth addysgu. Mae rhaid bod yn amyneddgar i allu dysgu dosbarthiadau mawr o ddisgyblion o wahanol alluoedd yn dda, a sicrhau bod pob disgybl yn deall y gwaith. Rwyf hefyd yn berson penderfynol – ac yn benderfynol y bydd pob disgybl yn llwyddo yn eu gwaith ac yn cael yr un cyfleoedd dan fy ngofal. Fy uchelgais yw bod yr athrawes orau y gallaf fod. Rwyf eisiau newid meddyliau disgyblion ynglyn â Mathemateg a chynyddu eu hyder yn y pwnc a’u cefnogi i lwyddo.
Dafydd Prys Roberts - TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg
Astudiais am fy ngradd baglor mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Birmingham cyn derbyn gradd feistr mewn Peirianneg Fecanyddol o Brifysgol Aston. Dewisiais gofrestru ar gwrs TAR Uwchradd gan fy mod wedi bod yn dysgu eraill mewn un ffordd neu'r llall am flynyddoedd. Roeddwn i gyntaf yn gadlanc yn y cadetiaid awyr ac yna’n gwirfoddoli gyda Ambiwlans Sant Ioan pan oeddwn yn y brifysgol. Mae bod yn athro wedi bod yn rhan o fy nghynlluniau gyrfa ers blynyddoedd gan fy mod wedi mwynhau fy mhrofiadau o ddysgu eraill gymaint.
Ar ben hynny, mae’r yrfa yn fy nenu’n fawr oherwydd y teimlad o foddhad sy'n dod o ddysgu pobl ifanc, y sicrwydd swydd ar gyfer y dyfodol, a'r gallu i fyw unrhywle - sy'n rhoi llawer o ryddid i mi. Rwy'n teimlo fod gen i’r gallu a’r sgiliau i fod yn athro da gan fy mod yn berson gweddol hyderus ac mae gen i brofiad o weithio gydag oedolion sy’n profi sefyllfaoedd anodd ac lle mae'n rhaid bod yn ystyriol.
Dewisais ddod i Brifysgol Abertawe gan mai hon yw’r unig brifysgol yn ne Cymru sydd yn cynnig cwrs TAR. Ar ben hynny, roeddwn i’n benderfynol o wneud fy nghwrs TAR trwy gyfrwng y Gymraeg gan fod yr iaith yn bwysig i fi fel rhan o fy hunaniaeth a’m diwylliant ac mae’r cwrs hwn wedi galluogi hynny. Ar ôl treulio pedair blynedd yn astudio yn Lloegr rwy’n falch o gael y cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg unwaith eto.
Ers byw yn Abertawe rwyf wir wedi gwerthfawrogi pa mor hyfryd yw’r ddinas a’r ardal – mae cyfleusterau gwych yma a’r traeth ar garreg y drws – Abertawe yw Barcelona Cymru!
Catrin Jones - TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg
Fe astudiais Fathemateg ar gyfer fy ngradd israddedig yma ym Mhrifysgol Abertawe ac fe wnes i raddio yn ôl ym mis Gorffennaf. Rwyf wedi dod i garu Abertawe dros y tair blynedd diwethaf, felly roedd fy mhenderfyniad i barhau gyda fy astudiaethau yn y Brifysgol yn un hawdd iawn i’w wneud.
Penderfynais ymgeisio am le ar y cwrs TAR Uwchradd gan mai un o fy hoff bethau i’w wneud yw helpu eraill i ddeall syniadau ac i drafod syniadau gwahanol, ac felly gall y cwrs fy ngalluogi i wneud hyn yn ddyddiol wrth hyfforddi i fod yn athrawes. Rwy’n hoff iawn o esbonio wrth eraill sut i fynd ati i ddatrys problemau ac rwy’n cael boddhad o weld fy nehongliadau yn gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion.
Er bod y pandemig wedi creu heriau newydd i fyfyrwyr, wnaeth Covid ddim effeithio ar fy mhenderfyniad i ddilyn y cwrs o gwbl. Roeddwn i’n gwybod cyn graddio fy mod eisiau bod yn athrawes gan fod yr athrawon oedd yn fy nysgu yn Ysgol Henry Richard, Tregaron wedi fy ysbrydoli gymaint. Doedd dim byd am newid fy meddwl i astudio’r cwrs; dim hyd yn oed feirws heintus sydd wedi achosi pandemig!
Rwy’n hoff iawn o gyfathrebu, bod wrth y llyw, a chadw’n drefnus – rhinweddau sy’n hanfodol ar gyfer addysgu. Rwyf hefyd yn unigolyn gofalgar iawn ac rwy’n awyddus i ddangos i’r genhedlaeth nesaf bod dim angen iddyn nhw ofni Mathemateg! Rwyf wedi cael cyfle i addysgu dosbarth mewn ysgol yn ddiweddar a bu’n brofiad cadarnhaol iawn, felly rwy’n ysu i fynd yn ôl i addysgu mwy o ddosbarthiadau!
Rwyf wedi bod yn dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg gan fy mod yn ystyried y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol o fewn addysg yng Nghymru. Tra mod i wedi ennill bwrsariaeth STEM Llywodraeth Cymru gan i mi raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg, rwyf hefyd am dderbyn cymorth ariannol o dan gynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory pan fyddaf yn cwblhau’r cwrs TAR yn llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r gymuned Gymraeg yn tyfu o fewn y Brifysgol hefyd, gyda Swyddog Materion Cymraeg llawn amser cyntaf yn cael ei hethol yn 2019 ac aelodaeth Y Gymdeithas Gymraeg yn chwyddo’n flynyddol – does dim amser gwell i ddarpar fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg i ystyried Prifysgol Abertawe fel sefydliad i ddod i astudio ymhellach ynddo.
Fy uchelgais yw cael swydd sy'n golygu rhywbeth i mi, ac rwy’n sicr bydd swydd o fewn y byd addysg yn rhoi hynny i mi. Fy nod pennaf ar gyfer fy ngyrfa, a hyd yn oed fy mywyd, yw gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl ifanc Cymru. Rwy’n caru Mathemateg ac rwy’n edrych ymlaen at allu sicrhau bod dyfodol y pwnc yn un sefydlog yng Nghymru a’r byd.
Sarah Davies - TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg
Graddiais o Brifysgol Queen’s Belfast, lle gwnes i astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
Rwyf wedi bod â diddordeb mewn addysg erioed, ac fe wnes i gael budd mawr o fy addysg yn bersonol, felly roedd yn benderfyniad hawdd i gofrestru ar gwrs TAR ar ôl gorffen fy ngradd BA. Roedd dewis Prifysgol Abertawe hefyd yn benderfyniad hawdd gan fod y cwrs TAR yn un newydd, blaengar ac roeddwn i’n sicr mod i eisiau astudio rhan o fy nghwrs drwy’r Gymraeg. Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar yma a chymorth ar gael lle bo angen – mae’n lle gwych i astudio!
Mae addysg mor bwysig er mwyn cynnig y sylfaen gorau i ddisgyblion gael mynediad at unrhyw lwybr gyrfa a bywyd maent am ei ddilyn, felly mae gan addysg apêl fawr i mi fel llwybr gyrfa lle gall unigolyn wneud gwahaniaeth.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o glybiau sydd wedi rhoi blas i mi ar addysgu. Gweithiais, er enghraifft, fel cynorthwyydd clybiau ar ôl ysgol a gwersylloedd haf lle gwnes i gynnal gweithgareddau gwyddoniaeth. Fe wnes i hefyd gynnal clwb darllen Saesneg pan oeddwn i yn yr ysgol, yn ogystal â chynorthwyo mewn dosbarthiadau a chefnogi gweithgareddau hybu llythrennedd a darllen.
Fe wnes i fwynhau derbyn fy addysg ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, felly roedd yn ddewis hawdd i hyfforddi fel athrawes trwy’r Gymraeg er mwyn gallu gweithio mewn ysgol uwchradd Gymraeg. Rwy’n gobeithio gallu gwireddu’r uchelgais honno, yn ogystal â chael y cyfle i fod yn bennaeth ar adran yn y pendraw.