Mae Prifysgol Abertawe'n cydlynu ac yn hwyluso’r rhwydwaith hwn ar y cyd â Phlant yng Nghymru.

Mae’r Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN) yn rhwydwaith o academyddion, ymarferwyr, llunwyr polisi a sefydliadau'r trydydd sector, sydd wedi'i gydlynu gan Dr Jacky Tyrie yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae'r rhwydwaith yn dod â'r rhai â diddordeb mewn hawliau plant ifanc ynghyd i rannu gwybodaeth a gweithio gyda'i gilydd, er mwyn: gwella hygyrchedd ymchwil, datblygu fforwm ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol, cyflwyno eiriolaeth gryfach ar gyfer hawliau plant ifanc, cyfnewid gwybodaeth rhwng gweithwyr proffesiynol ac i gefnogi datblygu sylfaen dystiolaeth i wella dealltwriaeth o hawliau plant ifanc.

Cynhelir cyfarfodydd y rhwydwaith bob deufis yn ne Cymru, i gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Dr Jacky Tyrie.

CODI YMWYBYDDIAETH O HAWLIAU PLANT

Mae'r strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi'r cynllun am sut bydd Llywodraeth Cymru'n codi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn Nghymru tan ddiwedd 2023.

Mae Rhwydwaith CREYN yn cael sylw penodol yn yr adran Blynyddoedd Cynnar:

...cefnogi rhwydwaith blynyddoedd cynnar hawliau plant. Byddwn yn cefnogi'r rhwydwaith hwn i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i rannu ymarfer da o ran hawliau plant.

Rydym yn awyddus i adeiladu ar hyn a datblygu cysylltiadau cryfach â Llywodraeth Cymru a chreu rôl fwy gweithredol i CREYN. https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-11/raising-awareness-of-childrens-rights.pdf