Rydym yn cynnig cyngor, arweiniad ac opsiynau cymorth i fyfyrwyr sy'n wynebu heriau yn ystod eu hamser yn y brifysgol. Mae ein gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr sy'n profi anawsterau emosiynol a phersonol yn ogystal â materion mwy cymhleth gan gynnwys nam ar y synhwyrau neu gorfforol, cyflyrau meddygol hir dymor, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau ar y sbectrwm awtistig a chyflyrau iechyd meddwl; i sicrhau bod holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe'n cael cyfleoedd dysgu cyfartal.
![Golygfa o'r awyr o gampws Singleton Prifysgol Abertawe a thirwedd Abertawe](/cy/gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr/Covid-Resources-Banner.jpg)