Ar y dudalen hon cewch awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i sicrhau bod eich cais i'n Cronfeydd Caledi yn haws i'n haseswyr brosesu ar ôl ei dderbyn. Gall ymddangos yn haws darparu cyn lleied o wybodaeth a thystiolaeth â phosibl, ond bydd hyn yn debygol o achosi oedi wrth brosesu eich cais - mae'n hynod o bwysig eich bod yn cynnig yr holl wybodaeth angenrheidiol a bod y dystiolaeth yn eich cais yn ddigonol i alluogi'n haseswyr i wneud asesiad manwl o'ch amgylchiadau ariannol. Nid ydym yn gallu prosesu ceisiadau nad ydynt yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol a thystiolaeth ddigonol i gadarnhau eich sefyllfa, ac mae'n bosibl y caiff ceisiadau eu canslo neu eu gwrthod os nad yw'r wybodaeth angenrheidiol a ofynnwyd amdani wedi'i darparu. Os oes gennych gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy anfon e-bost at; hardshipfunds@abertawe.ac.uk
Felly beth yw tystiolaeth ddigonol? Gwyliwch y fideos esboniadol isod i weld enghreifftiau o'r dystiolaeth sydd ei hangen ar eich cais, a'r wybodaeth y mae angen inni ei gweld er mwyn i ni allu derbyn y dystiolaeth.