CYMORTH YCHWANEGOL I FYFYRIWR SY'N RHIENI
Bydd uchafswm y Grantiau Atodol y bydd gennych hawl i'w derbyn yn amrywio gan ddibynnu ar a ydych yn cyflwyno cais drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Student Finance England.
Grant Atodol | Cyllid Myfyrwyr Cymru | Student Finance England |
---|---|---|
Grant Gofal Plant (1 Plentyn) | £179.62/yr wythnos | £179.62/yr wythnos |
Grant Gofal Plant (2 neu fwy o blant) | £307.95/yr wythnos | £307.95/yr wythnos |
Lwfans Dysgu i Rieni | £1821/y flwyddyn | £1821/y flwyddyn |
Grant Oedolion Dibynnol | £3190/y flwyddyn | £3190/y flwyddyn |
Grant Gofal Plant
Gallwch gyflwyno cais am y Grant Gofal Plant os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac rydych yn:
Fyfyriwr yn y DU
Mae gennych o leiaf un plentyn dan 15 oed sy'n ddibynnol arnoch ac sydd mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy; neu
Mae gennych o leiaf un plentyn dan 17 oed sy'n ddibynnol arnoch, ag anghenion addysgol arbennig ac sydd mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy.
Gan ddibynnu ar incwm eich aelwyd, gallwch gyflwyno cais am hyd at 85% o'ch gwir gostau gofal plant yn ystod y tymor a'r gwyliau. Bydd angen i fyfyrwyr sy'n cyflwyno cais am y Grant Gofal Plant gwblhau ffurflen CCG1. Bydd angen iddynt gwblhau ffurflen CCG2 yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddarparu tystiolaeth o wir gost y gofal plant a ddefnyddiwyd.
Lwfans Dysgu i Rieni
Gallwch gyflwyno cais am y Lwfans Dysgu i Rieni os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn â phlant dibynnol. Mae'r lwfans hwn yn helpu gyda'r costau ychwanegol sydd ynghlwm wrth fod yn rhiant ac yn fyfyriwr. Nid oes rhaid eich bod yn talu am ofal plant i fod yn gymwys.
Bydd y swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, sef incwm eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu'ch partner (os oes un gennych) ac unrhyw ddibynyddion. Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno cais i brif ddarparwr eu cyllid (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru). Caiff ei asesu yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd gennych yn eich prif gais am gyllid myfyrwyr ond mae'n bosib y bydd Cyllid Myfyrwyr yn gofyn am ragor o dystiolaeth i gefnogi'ch cais.
Grant Oedolion Dibynnol
Gallwch gyflwyno cais am y Grant Oedolion Dibynnol os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn ac mae oedolyn arall yn dibynnu arnoch yn ariannol. Gall yr oedolyn hwn fod yn bartner neu'n oedolyn arall sy'n dibynnu arnoch yn ariannol. Nid yw plant mewn oed yn gymwys fel oedolion dibynnol.
Mae'r swm y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich aelwyd, sef incwm eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu'ch partner (os oes un gennych) ac unrhyw ddibynyddion. Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno cais i brif ddarparwr eu cyllid (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru). Caiff ei asesu'n seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd gennych yn eich prif gais ond mae'n bosib y bydd Cyllid Myfyrwyr yn gofyn am ragor o dystiolaeth i gefnogi'ch cais.
Sut caiff Grantiau Atodol eu talu?
Cânt eu talu mewn tri rhandaliad fel arfer, un ar ddechrau pob tymor, yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ynghyd ag unrhyw gyllid cynhaliaeth (benthyciad a grant) arall rydych yn ei dderbyn.
Manteision
Nid oes modd i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr hawlio budd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm ond mae'n bosibl y bydd modd i chi eu hawlio os ydych yn rhiant sengl, os oes gennych bartner sy'n fyfyriwr hefyd (ac mae un neu'r ddau ohonoch yn gyfrifol am blentyn), neu os oes gennych anabledd.
Os oes gennych bartner nad yw'n fyfyriwr ac mae'n gymwys am unrhyw fudd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm, mae modd i'ch partner eu hawlio ar ran y ddau ohonoch.
Budd-dal Plant – www.gov.uk/child-benefit/trosolwg
Ar ôl i'ch plentyn gael ei eni, dylech gyflwyno cais am Fudd-dal Plant. Os ydych chi neu'ch partner yn ennill dros £50,000 yn unigol, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth. Hyd yn oed os yw eich incwm yn rhy uchel, dylech gyflwyno cais o hyd er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Dylech gyflwyno cais ymhen 3 mis ar ôl yr enedigaeth er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich hawl llawn.
Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith – www.gov.uk/child-tax-credit
Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i dderbyn Credyd Treth Plant os oes gennych chi (neu'ch partner) o leiaf un plentyn sy'n dibynnu arnoch, os yw'ch incwm yn is na lefel benodol, ac rydych yn bodloni’r rheolau preswyl a osodir gan y ddeddfwriaeth.
Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith os ydych chi (neu'ch partner) yn gyfrifol am blentyn, a'ch bod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, bod eich incwm o dan drothwy penodol, a'ch bod yn bodloni’r meini prawf preswylio a osodwyd yn y ddeddfwriaeth.
Budd-dal Tai – www.gov.uk/housing-benefit/overview
Os ydych yn byw mewn llety wedi'i rentu, mae'n bosibl y cewch gyflwyno cais am Fudd-dal Tai. Os ydych yn rhiant sengl neu'n gwpl ac mae'r ddau ohonoch yn fyfyrwyr llawn amser, fe'ch cynghorir i gyflwyno cais am Fudd-dal Tai. Mae prawf moddion ar gyfer y budd-dal hwn, felly nid oes modd gwarantu y byddwch yn ei dderbyn, ond mae canran uchel o fyfyrwyr yn derbyn rhywfaint o gymorth.
Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio Gwaith
Mae myfyrwyr sy'n rhieni sengl â phlentyn dan 5 oed yn gallu cyflwyno cais am Gymhorthdal Incwm yn ystod gwyliau'r haf. Gall myfyrwyr sy'n rhieni sengl neu un rhiant mewn pâr o fyfyrwyr ag o leiaf un plentyn dibynnol fod yn gymwys i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn ystod gwyliau'r haf os ydynt ar gael i weithio. Siaradwch ag Arian@BywydCampws am ragor o wybodaeth.
Treth y Cyngor – www.gov.uk/council-tax
Nid oes rhaid i fyfyrwyr amser llawn dalu treth y cyngor. Os ydych yn rhiant sengl, yn byw gyda'ch plentyn/plant, byddwch yn derbyn disgownt o 100%. Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn aelwyd gydag un oedolyn sy'n gorfod talu treth y cyngor, byddwch yn derbyn gostyngiad yn eich treth y cyngor gwerth 25% yn unig.
I gael llythyr ar gyfer gostyngiad Treth y Cyngor, cysylltwch â My Uni Hub