Mae ein Hundeb Myfyrwyr yn cefnogi dros 150 o gymdeithasau
Mae cymuned myfyrwyr gref ar gampysau Prifysgol Abertawe. O'r celfyddydau gweledol i pocer, cwrw go iawn i ganu corawl, mae'n debygol iawn bod gan Undeb y Myfyrwyr y gydeithas berffaith i chi - ac os nad oes un yn bodoli, mae'n rhwydd creu eich un eich hun!
Mae ymuno â chlwb neu gymdeithas yn ffordd wych o gwrdd â phobl o'r un meddylfryd a gwneud ffrindiau newydd. Gall hefyd roi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr i chi i'ch helpu i gael hyd i swydd - yn enwedig os byddwch yn arwain wrth gynnal y clybiau.
Gallwch ddysgu mwy a chofrestru i glwb chwaraeon neu gymdeithas ar unrhyw adeg trwy ymweld â gwefan Undeb y Myfyrwyr. Bydd llawer o gyfleoedd i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig yn ystod y cyfnod croeso hefyd.
I weld rhestr law o gymdeithasau, a chael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr.
Helo, Madelyn ydw i, eich Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau!
Fel swyddog cymdeithasau a gwasanaethau, bydd Maddy yn cefnogi holl gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â goruchwylio a chael dweud ei dweud ar redeg holl wasanaethau’r Undeb. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys JC's, Cove, Costcutter, Y Stiwdio, Meithrinfa a'r ganolfan Cyngor a Chymorth. Mae hi hefyd yn eistedd ac yn cadeirio Pwyllgor Gweithredol y Gymdeithas, lle maent yn sicrhau bod pob cymdeithas yn cael ei chynrychioli'n deg.
Helô, Cam ydw i, Swyddog Chwaraeon Undeb y Myfyrwyr!
Mae Cam yn goruchwylio gweithrediad o ddydd i ddydd pob un o'r 56 clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. Yn ddiweddar cwblhaodd ei radd israddedig mewn Rheolaeth Busnes ac ers ymuno ag Abertawe yn ôl yn 2021 mae wedi chwarae UPPA PIGS Rygbi’r Gynghrair!! Yn codi i fod yn llywydd yn ei flwyddyn olaf o astudio. Mae Cam yn bwynt cyswllt allweddol rhwng Undeb y Myfyrwyr a Chwaraeon Abertawe, gan ein helpu i gydweithio ar brosiectau chwaraeon enfawr fel Prifysgolion Cymru.
Cyfryngau'r Brifysgol
Gall myfyrwyr wirfoddoli i gymryd rhan gydag unrhyw rai o'r cyfryngau hyn, a rhoddir hyfforddiant a help iddynt ddatblygu eu sgiliau newyddiadurol. Mae profiad gwaith ymarferol ar gael hefyd, o safbwynt y cyhoeddiadau i fyfyrwyr a sefydliadau allanol hefyd. Erbyn hyn mae llawer o gyn-gyfranogwyr Waterfront yn gwneud gwaith proffesiynol yn y cyfryngau - ond mae croeso hefyd i'r fyfyrwyr sydd am ysgrifennu er pleser yn unig!
Mae gan Brifysgol Abertawe bapur newydd a gynhelir gan fyfyrwyr, Waterfront, Front, a gwefan Waterfront Online, sy'n cael eu cynnal gan dîm mawr o fyfyrwyr sy'n ysgrifenwyr, ffotograffwyr, cynllunwyr a datblygwyr y we.
Mae gorsaf radio i fyfyrwyr ar y campws hefyd. Mae gan Xtreme Radio stiwdios byw a recordio, lle gall myfyrwyr gyflwyno a chynhyrchu eu sioeau eu hunain. Mae croeso i unrhyw un gymryd rhan, ac mae cyn-aelodau Cymdeithas Radio Xtreme wedi symud ymlaen i swyddi ym maes radio. Mae Xtreme yn cydweithio'n agos â Radio'r BBC i ddarparu hyfforddiant i'w haelodau.
Gorsaf deledu swyddogol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, SUTV. Recordiwch, golygwch a chyhoeddwch gynnwys fideo ar-lein gyda’r nod o hyrwyddo a hysbysebu profiad myfyrwyr yn y brifysgol trwy ddigwyddiadau, cymdeithasau a chwaraeon.