Eisteddodd dyn â megaffon ar lori. Mae logo Canvas yn ymddangos yn y cefndirf

Chwilio Clyfar

Gellir defnyddio Chwilio Clyfar i chwilio am eiriau allweddol mewn cwrs yn Canvas. Ar hyn o bryd gall dod o hyd i eiriau ar dudalennau Canvas, mewn cyhoeddiadau, trafodaethau, a disgrifiadau o aseiniadau yn y cwrs. Bydd y nodwedd yn cael ei hehangu i gynnwys mwy o fathau o gynnwys yn y dyfodol.

I gyrchu a defnyddio Chwilio Clyfar, dilynwch y camau isod:

Agor Chwilio Clyfar

sgrinlun yn dangos y ddolen i gyrchu chwiliad clyfar yn newislen llywio cwrs Canvas

Agorwch unrhyw gwrs Canvas. Gwelwch Chwilio Clyfar yn newislen llywio'r cwrs ar ochr chwith y sgrîn.

Teipiwch derm i'w chwilio

sgrinlun o sut mae'n edrych i chwilio am derm gan ddefnyddio chwiliad craff Canvas.

Teipiwch air allweddol neu ymadrodd yn y blwch chwilio. Bydd angen i chi bwyso'r allwedd 'Enter' i ddechrau'r chwiliad.


Dangos eich rhagenwau

Gallwch nawr ddewis arddangos eich rhagenwau ar eich tudalen Gosodiadau Canvas. Gallwch ddewis rhwng 'Dim', 'Hi', 'Ef' neu 'Nhw'. Bydd eich rhagenwau'n ymddangos mewn cromfachau ar ôl eich enw ble bynnag y dangosir eich enw yn Canvas. Ni fydd unrhyw ragenwau yn cael eu harddangos os ydych chi'n dewis yr opsiwn 'Dim'.

Dilynwch y camau isod i osod eich rhagenwau yn Canvas:

Ewch i'ch gosodiadau

ciplun sgrin yn dangos sut i agor eich tudalen gosodiadau cynfas

Yn y ddewislen lywio gyffredinol, cliciwch ar 'Cyfrif'. Bydd hyn yn agor cwarel ar ochr chwith y sgrîn, lle gallwch gyrchu eich Gosodiadau.

Dewiswch eich rhagenwau

ciplun sgrin yn dangos sut i ddewis eich rhagenwau

Ar ochr dde'r sgrîn, cliciwch 'Golygu Gosodiadau'. Yna gallwch ddewis eich rhagenwau dewisol yn y gwymplen yn y llun.

Cadwch eich newidiadau

ciplun sgrin yn dangos sut i arbed eich newidiadau

Pan fyddwch chi'n fodlon ar y newidiadau, cofiwch eu cadw drwy glicio ar y botwm 'Diweddaru Gosodiadau' ar waelod adran 'Gosodiadau' y dudalen.


Ynganu Enwau

Gallwch helpu eich hyfforddwyr i ynganu eich enw'n gywir drwy ychwanegu ynganiad i'ch Proffil ar Canvas. Cyn ychwanegu eich ynganiad at Canvas dylech ddarllen yr erthygl Wiki-How, 'How to Spell your Name Phoenetically', i'ch helpu i ddyfeisio sillafiad ffonetig cywir o'ch enw.

Dilynwch y camau isod i osod ynganiad eich enw yn Canvas:

Ewch i'ch proffil

ciplun sgrin yn dangos sut i agor eich tudalen proffil Canvas

Yn y ddewislen lywio gyffredinol, cliciwch ar 'Cyfrif'. Bydd hyn yn agor cwarel ar ochr chwith y sgrîn, lle gallwch gyrchu eich Proffil.

Ychwanegwch eich ynganiad

ciplun sgrin yn dangos sut i ychwanegu ynganiad enw i'ch tudalen proffil

Ar ochr dde'r sgrîn, cliciwch 'Golygu Proffil'. Yna gallwch ychwanegu ynganiad eich enw o dan eich enw.

Cadwch eich newidiadau

ciplun sgrin yn dangos sut i arbed eich newidiadau

Pan fyddwch chi'n fodlon ar y newidiadau, cofiwch eu cadw drwy glicio ar y botwm 'Cadw Proffil' ar waelod y dudalen.


Diweddariadau i Canvas Discussions

Mae'r adran Canvas Discussions wedi cael ei hailgynllunio, ac mae swyddogaethau ychwanegol wedi cael eu cyflwyno. Ceir rhyngwyneb wedi'i ddiweddaru sydd bellach yn cynnwys chwilio a modd gweld sgrîn hollt newydd; y gallu i nodi a dyfynnu pobl eraill yn eich atebion; a gallwch nawr olygu eich atebion ac adrodd am ateb rhywun arall os yw'n sarhaus neu'n ymosodol.

Ceir manylion y nodweddion hyn ar y cwrs arweiniad 'Pasbort i Canvas'. Bydd angen i chi wneud yn siŵr eich bod wedi ymrestru ar ymestru ar Pasbort i Canvas cyn y gallwch gael mynediad at y canllawiau isod:

llun o law yn pwyntio at sgrin

Diweddariadau i'r Rhyngwyneb

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio'r Rhyngwyneb Trafodaethau newydd i chwilio, hidlo a didoli atebion; newid rhwng yr olwg syth a'r olwg hollt; a thanysgrifio i drafodaeth:

Y Rhyngwyneb Trafodaethau
swigen siarad

Ysgrifennu Ymatebion

Gallwch ddarganfod sut i ddefnyddio'r nodweddion ysgrifennu ymateb newydd, sut i nodi a dyfynnu pobl, a sut i sefydlu'ch hysbysiadau i'w defnyddio'n briodol:

Ymateb i Drafodaeth
pensil a swigen siarad yn cynnwys ebychnod

Golygu/adrodd ymatebion

Gallwch ddarganfod sut i olygu, a gweld hanes golygu eich ymatebion. Gallwch hefyd roi gwybod am ymateb rhywun arall os yw'n sarhaus neu'n ddilornus:

Golygu ac Adrodd Ymatebion

Ble i gael cymorth gyda Canvas

Cofiwch, ceir gwybodaeth am yr holl lwybrau cymorth sydd ar gael ar gyfer Canvas gan Instructure a chan Brifysgol Abertawe ar ein tudalen Cymorth i Fyfyrwyr:

Ewch i 'Cymorth Canvas i Fyfyrwyr'
myfyrwraig yn defnyddio gliniadur