dyn yn barod i ddechrau ras, mae logo Canvas yn ymddangos y tu ôl iddo.

Trosolwg Canvas i Fyfyrwyr

Mae'r fideo tri munud hwn gan Instructure (y bobl sydd wedi creu Canvas) yn cyflwyno taith gyflym o'r platfform, gan ddangos sut i ddefnyddio'r Dangosfwrdd a'r Cwymplenni Llywio.

Esboniad o Derminoleg y Canvas

Mae rhywfaint o'r derminoleg a ddefnyddir yn Canvas ychydig yn groes i'r derminoleg rydym yn defnyddio yn y Brifysgol. Rydych chi wedi dod i'r Brifysgol i astudio Cwrs, sy'n cynnwys nifer o Fodiwlau Academaidd.

Yn Canvas, trefnir cynnwys yn 'Gyrsiau'. Felly mae gan bob un o'ch Modiwlau Academaidd Gwrs Canvas sy'n cynnwys yr holl adnoddau dysgu a safleodd cyflwyno aseiniadau ar gyfer y Modiwl Academaidd hwnnw.

Mae gan bob Cwrs Canvas ardal 'Modiwlau', sy'n ffordd i'ch hyfforddwyr drefnu cynnwys o fewn Cwrs Canvas. Efallai y bydd gennych Fodiwlau Canvas ar gyfer pob Wythnos o gynnwys, neu ar gyfer pob Pwnc y byddwch yn astudio fel rhan o'r Modiwl Academaidd.

Felly mae'n bwysig deall bod gwahaniaeth rhwng eich Cwrs Prifysgol a Chyrsiau yn Canvas, ac mae gwahaniaeth rhwng eich Modiwlau Academaidd a Modiwlau yn Canvas. Bydd y gwahaniaethau hyn yn dod yn llawer cliriach wrth i chi archwilio Canvas eich hun.

Fideos Canvas

Canvas Dashboard Overview

Dysgwch sut i newid golwg a chynnwys eich dangosfwrdd a rheoli'r bar ochr.

Canvas Notification Settings

Dysgwch am reoli eich gosodiadau hysbysu ar gyfer yr holl gyrsiau ac ar gyfer cyrsiau unigol.

The Canvas Student App

Dysgwch sut i fewngofnodi i’r ap ‘Canvas Student’ a’i lywio.

Canvas Calendar Overview

Dysgwch sut i ddefnyddio'r Calendr i olrhain digwyddiadau ac aseiniadau pwysig.

Ble i gael cymorth gyda Canvas

Mae gwybodaeth am yr holl lwybrau cymorth sydd ar gael ar gyfer Canvas gan Instructure a chan Brifysgol Abertawe ar ein tudalen Cymorth i Fyfyrwyr:

Ewch i 'Cymorth Canvas i Fyfyrwyr'
myfyrwraig yn defnyddio gliniadur i astudio

Pasbort i Canvas

Cwrs yn Canvas yw 'Pasbort i Canvas' sy'n cynnwys arweiniad ar nodweddion craidd y platfform gan gynnwys Llywio, Aseiniadau, Cwisiau, Trafodaethau, Graddau ac Adborth, defnydd o'r ap i Fyfyrwyr a mwy.

Gallwch hefyd weld fersiwn Saesneg y cwrs, 'Passport to Canvas' os dymunwch.

pasbort gyda Logo Canvas ar y blaen