Helô, Annabel ydw i. Cefais fy ngeni a’m magu yng Ngwlad yr Haf ond dw i wedi treulio’r ddwy flynedd diwethaf ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio Peirianneg Feddygol.

Dw i wrth fy modd yn gwneud pethau yn yr awyr agored; mwya’r baw a’r glaw, gorau oll! Yn fy amser hamdden, dw i’n hoffi cerdded fy nghŵn, chwarae'r sacsoffon a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Wel te, Elyrch, mae’r byd yn byw drwy adeg ryfedd iawn ar hyn o bryd a ph’un ai eich blwyddyn gyntaf neu’ch blwyddyn olaf yw hi, nid dyma’r semester roeddech chi wedi’i ragweld, mae’n siŵr. Ond na phoener! Os yw eich cymhelliant chi wedi diflannu, mae’ch WiFi yn ei chael hi’n anodd ymdopi a’r unig beth rydych chi am ei wneud yw adeiladau castell clustogau a gwylio The Office, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Dyma sïon sicr i ofalu am eich hun yn ystod y cyfnod hwn a bod nôl ar ben ffordd gyda’ch aseiniadau...

Llun proffil o Annabel

1. Creu lle da i astudio

Mae lle da i astudio yn anodd dod o hyd iddo ond os oes modd i chi osod un mewn ystafell wahanol i le rydych chi’n cysgu, gorau oll! Mae rhai ohonom yn gweithio’n dda gyda chysondeb ac mae angen amrywiaeth yn ein hamgylchiadau ar rai ohonom. Yn bersonol, rydw i bendant yn yr ail gategori, felly dw i’n tueddu i symud i leoedd astudio gwahanol drwy gydol y diwrnod. Mae hyn fel arfer yn cynnwys dilyn yr haul gyda fy nghwpanaid o de a’m gliniadur. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd peidio â glynu eich hun wrth eich ffôn symudol, byddwn i’n argymell yr ap Hold. Gallwch osod hyd eich sesiwn astudio a defnyddio pwyntiau i gael codau gostyngiadau neu roi i elusennau!

2. Cofiwch gael seibiau bwriadol

Seibiau bwriadol - nid y rhai hynny sy’n cynnwys gwirio eich ffôn ac yn sydyn, rydych chi wedi bod yn gwylio fideos TikTok am 20 munud. Beth ydych chi bob amser wedi dweud y byddech chi’n ei wneud petai’r amser gennych chi? Dysgu offeryn newydd? Iaith? Rhoi cynnig ar wau? Dysgu sut i wneud troad yn ôl? Mireinio eich gwybodaeth am rywogaethau o falwod gardd? Mae cynifer o adnoddau ar gael i chi, a hyd yn oes os mai 5 munud yn unig ar Duolingo yw e, gall wneud gwahaniaeth mawr o ran eich cynhyrchiant.

3. Cadw cysylltiad â ffrindiau

Iawn, dw i’n gwybod bod pawb wedi cael llond bol ar Zoom erbyn hyn ond daliwch ati! Boed yn gwis tafarn, yn barti dawnsio neu’n sgwrs, mae mor bwysig i gadw mewn cysylltiad â’ch gilydd Dyma fy semester olaf yn y brifysgol, ac er y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn ei dreulio dan yr haul yn Abertawe gyda’m ffrindiau, dw i’n credu ein bod ni’n paratoi i aros mewn cysylltiad yn well ar ôl graddio (pryd bynnag y bydd hynny) ac yn ein bywydau newydd ar ôl y brifysgol.

4. Byddwch yn garedig i chi’ch hun!

Y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud ar hyn o bryd yw gofalu am eich hun. Mae’n hollol iawn i’w chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod hwn, ac mae bywydau pawb wedi cael eu troi ar eu pennau. Cadwch lygaid ar eich iechyd meddwl chi a siaradwch â rhywun os ydych chi’n meddwl nad ydych chi’n ymdopi. Dw i’n gwybod ei bod hi’n teimlo fel y peth mwyaf yn y byd nawr, ond byddwn yn dod trwyddi! Felly, cerwch amdani - adeiladwch y castell clustogau, cymerwch fisgïen arall a darllenwch y llyfr hwnnw sy’n gwbl amherthnasol i’ch cwrs ond sy’n hwyl. Byddwch yn garedig i chi eich hun a gofalwch am bawb arall. Gwelwn ni chi nôl yn Abertawe yn fuan!