Cwestiynau Cyffredin
Archebu eich Lle
Pryd y gallaf archebu fy lle yn y cynulliad?
Byddem yn anfon e-bost atoch pan fydd y system archebu ar-lein yn agor, fel arfer oddeutu 3 mis cyn y cynulliadau.
Anfonir e-byst at eich cyfrif e-bost Prifysgol ac unrhyw e-bost personol sydd gennym ar eich cyfrif mewnrwyd.
Dydw i ddim yn dod â gwesteion i'r cynulliad; a oes angen i mi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd?
Oes, mae'n hanfodol eich bod yn cwblhau'r broses gwneud cais i wneud yn siwr bod eich sedd wedi'i chadw ar eich cyfer.
Ni fyddaf yn mynychu'r cynulliad - a oes angen i mi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd?
Oes, mae angen i chi gwblhau'r broses gwneud cais o hyd, gan fod angen i ni wybod faint o fyfyrwyr a fydd yn mynychu.
Rydw i'n dal i aros am fy nghanlyniadau. A ddylwn aros hyd nes eu bod wedi'u cyhoeddi cyn cwblhau'r broses gwneud cais?
Na, dylech gwblhau'r broses gwneud cais cyn gynted â phosib, i wneud yn siwr bod tocynnau'n cael eu dyrannu i chi.
Ni fedrwn warantu y bydd tocynnau ar gael o hyd os ydych yn gwneud cais ar ôl y dyddiad cau ar gyfer archebu.
Os nad ydych yn pasio eich asesiadau terfynol, caiff eich gwahoddiad i'r cynulliadau ei dynnu yn ôl yn awtomatig a byddwch yn derbyn e-bost i cadarnhau nad ydych yn gymwys i mynychu y cynulliadau.
Ydy hi’n bosib newid diwrnod/amser fy nghynulliad?
Na, bydd cynulliad yn cael ei drefnu i bob myfyriwr yn seiliedig ar eu hadran gartref. Bydd yr egwyddor hon yn weithredol ar draws pob Ysgol.
Os nad ydych yn siŵr pa adran yw eich adran gartref cysylltwch â’ch Ysgol yn y lle cyntaf.
Tocynnau
Sut gallaf archebu tocynnau gwesteion?
Byddwch yn derbyn ein gwahoddiad ar e-bost ar gyfer y system cadw lle ar-lein, a byddwch yn cael 2 docyn i westeion am ddim ac yn awtomatig.
Nid oes angen tocyn ar y myfyrwyr sy'n graddio i fynychu eu seremoni a byddant yn derbyn cerdyn cofrestru wrth iddynt gofrestru yn y Neuadd Fawr yn lle.
Byddwch yn casglu'ch tocynnau ar ddiwrnod eich cynulliad.
A fydd yna docynnau ychwanegol ar gael?
Rydym yn sylweddoli y gall gyfyngu nifer y tocynnau i 2 i bob myfyriwr achosi peth siomedigaeth, ond gobeithio y gallech werthfawrogi mai nifer penodol o seddi sydd ar gael yn y lleoliad ac nid oes modd i ni fynd dros y nifer hwn.
Ar gyfer gwesteion ychwanegol heb docynnau mae gennym ystafelloedd darlledu byw gyda seddi ar gael yn y Neuadd Fawr. Mae’r ystafelloedd hyn yn gwbl hygyrch ac mae croeso i chi ddod â chynifer o westeion ag y dymunwch.
I westeion nad oes modd iddynt fynychu, bydd seremonïau'n cael eu gwe-ddarlledu'n fyw trwy'r dudalen we ganlynol: Graddio - Prifysgol Abertawe
Sut byddaf yn derbyn fy nhocynnau?
Ni anfonir tocynnau at westeion - bydd angen i chi gasglu'ch tocynnau o'r Coleg ar ddiwrnod y cynulliad ar ôl i chi gofrestru.
Nid oes angen tocyn ar y myfyrwyr sy'n graddio i fynychu eu seremoni ond bydd angen iddynt gofrestru ar y diwrnod er mwyn derbyn eu cerdyn cofrestru.
A allaf ddod â phlant i'r cynulliad?
Ie. Rydym yn cydnabod bod seremonïau graddio'n achlysuron i'r teulu ac mae croeso i blant ddod. Serch hynny, rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn. Mae'r cynulliadau'n para tuag awr a phymtheng munud felly efallai nad ydynt yn addas i blant ifanc iawn. I barchu gwesteion eraill, rydym yn gofyn i chi fynd â phlant allan os ydynt yn cynhyrfu yn ystod y cynulliad fel nad ydynt yn tarfu ar y seremoni a gwesteion eraill. Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i blant (neu oedolion) adael yr awditoriwm yn ystod y seremoni os ydynt yn gwneud sŵn diangen neu'n tarfu ar y seremoni neu westeion eraill.
Dylai plant dan 2 oed eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd. Nid oes angen tocyn arnynt.
Rhaid i blant 2 oed ac yn hŷn gael tocyn i gael mynediad i'r cynulliad.
Nid oes cyfleusterau gofal plant ar gael.
A oes unrhyw le ar gael ar gyfer cadeiriau olwyn?
Oes, ond sylwer mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael i gadeiriau olwyn ac mae'n rhaid archebu llefydd o flaen llaw.
Os oes unrhyw ofynion arbennig gyda chi neu'ch gwesteion, nodwch hyn pan ofynnir i chi yn ystod y broses gwneud cais ar-lein neu, os ydych wedi archebu lle yn barod, cysylltwch â'r Swyddfa Raddio yn uniongyrchol.
Gwisg
A oes cod gwisg?
Rhaid i'r holl fyfyrwyr sy'n graddio wisgo gwisg academaidd.
Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.
Rydym hefyd yn argymell bod darpar raddedigion yn gwisgo crys neu flows, i alluogi cwfl y gwn i gael ei atodi i un o’r botymau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n adran Gwisg Academaidd.
Does dim cod wisg ffurfiol i westeion. Serch hynny, gan fod y cynulliad yn ddigwyddiad ffurfiol, rydym yn argymell bod gwesteion yn gwisgo dillad smart.
Ble ydw i'n archebu fy ngwisg graddio? Faint y bydd yn ei gostio?
Chi sy'n gyfrifol am archebu eich gwisg eich hun.
Y cyflenwr swyddogol o'r gwisgoedd academaidd priodol yw Ede and Ravenscroft.
Mae'r holl gynau graddio yn costio £52 i'w llogi os cânt eu harchebu cyn y seremonïau. Bydd cost llogi gŵn yn cynyddu ar y diwrnod.
Ar y Dydd
Faint o'r gloch bydd y cynulliadau'n dechrau ac yn gorffen?
Bydd yr holl gynulliadau yn dechrau am 9.30am, 11.30am, 2.15pm a 4.15pm. Ewch i amserlen am gwybodaeth penodol.
Bydd angen i chi gyrraedd tuag awr a hanner cyn i'ch cynulliad ddechrau i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o amser i gasglu eich tocynnau a'ch gŵn a chael tynnu eich lluniau swyddogol.
Sylwer bod y stiwdios ffotograffiaeth ar agor cyn neu ar ôl eich cynulliad ac maen nhw yn Y Twyni.
Bydd pob cynulliad yn para oddeutu 1 awr 15 munud.
Ble mae'r lleoliad a sut ydw i'n cyrraedd yno?
Bydd Graddio yn cael eu cynnal yn Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Crymlyn Burrows, Abertawe, SA1 8EN.
Gwelwch Trefniadau Teithio a Pharcio ar gyfer Graddio am fwy o wybodaeth.
Beth sydd angen i mi wneud ar y dydd?
Ar ddiwrnod eich Cynulliad bydd angen i chi fynd i'r Coleg i gofrestru, cael rhif eich sedd, a chasglu'ch eich cerdyn cofrestru. Bydd angen i chi gasglu eich gynau ac efallai dewis cael lluniau swyddogol wedi'u tynnu.
Sylwer y gallai fod ciw, felly cynghorir eich bod yn cyrraedd o leiaf awr a hanner cyn amser dechrau eich Cynulliad.
Sylwer bod rhaid i chi a'ch gwesteion gymryd eu seddi yn y Neuadd Fawr heb fod yn hwyrach na 15 munud cyn dechrau'r cynulliad. Gall gyrraedd yn hwyr effeithio ar allu eich gwesteion i gymryd eich seddi a'ch gallu i gymryd rhan yn y cynulliad. Mae'r hawl gennym i wrthod mynediad i'r cynulliad i unrhyw westeion sy'n cyrraedd yn hwyr, hyd yn oed os oes tocyn gyda nhw.
Bydd y drysau i'r neuadd yn agor 30 munud cyn dechrau'r cynulliad.
Ble y byddaf yn eistedd yn y cynulliad? A fyddaf yn eistedd gyda fy ngwesteion?
Byddwch yn eistedd gyda darpar raddedigion eraill ym mlaen yr awditoriwm, yn nhrefn y wyddor ac yn ôl trefn y dyfarniad a'r cwrs.
Cyhoeddir pob dyfarniad, wedi'i ddilyn gan enwau'r holl ddarpar raddedigion sy'n mynychu.
Wrth i'ch enw gael ei gyhoeddi, byddwch yn cerdded ar draws y llwyfan i godi eich cap i’r Canghellor neu'r Dirprwy Ganghellor.
Bydd y Marsialiaid ar gael i'ch cynorthwyo ar y dydd, i wneud yn siwr eich bod yn cael eich cyflwyno'n gywir.
Bydd gwesteion yn eistedd mewn man ar wahân y tu ôl i'r darpar raddedigion.
A fedraf ddod â chamera a chamera fideo i'r cynulliad?
Cewch, ond byddwch yn ystyriol o'r rhai hynny sy'n eistedd o'ch cwmpas os ydych yn tynnu lluniau neu'n ffilmio yn ystod y digwyddiad.
Bydd ffotograffau proffesiynol ar gael i'w prynu ar ôl y cynulliad - am ragor o fanylion, ewch i'n adran Lluniau
Amrywiol
Pryd y byddaf yn derbyn fy nhystysgrif?
Y polisi yw postio'r dystysgrif i'w gyfeiriad cartref fel y'i nodir ar y Proffil Myfyriwr o fewn 8 wythnos ar ôl ei dyfarnu. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod y manylion cyswllt cywir ar y fewnrwyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich tystysgrif, neu os nad ydych wedi derbyn eich tystysgrif o fewn tri mis i gadarnhau'r dyfarniad, e-bostiwch degreecertificates@swansea.ac.uk
Mae angen llythyr cefnogi fisa arnaf i fi /fy nheulu fynychu'r cynulliad - beth y dylwn ei wneud?
Ewch i'n adran Llythyron cefnogi Fisâu Rhyngwladol am ragor o fanylion.
Sut y gallaf gysylltu â'r Swyddfa Raddio?
Gweler ein tudalen Cysylltwch â Ni.
Force Majeure
Os bydd angen i Brifysgol Abertawe ganslo, newid neu aildrefnu seremonïau graddio, bydd y Brifysgol yn ymdrechu i hysbysu myfyrwyr am hyn gan roi'r rhybudd mwyaf posib. Os caiff y seremoni raddio ei chanslo, ei gohirio neu ei haildrefnu (gan gynnwys newid y dyddiad, yr amser a/neu'r lleoliad) o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, gan gynnwys (er nad yw hon yn rhestr gyflawn) tân, ffrwydrad, gweithred derfysgaidd (neu fygythiad o weithred derfysgaidd), gweithred gan Dduw, pandemig, profedigaeth genedlaethol (sef unrhyw aelod o'r teulu brenhinol), cofrestriadau myfyrwyr yn mynd y tu hwnt i'n darpariaeth neu o ganlyniad i unrhyw weithredu diwydiannol, anghydfod sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe, neu unrhyw ddigwyddiad neu weithred arall y tu hwnt i reolaeth Prifysgol Abertawe, ni fydd y Brifysgol yn atebol am unrhyw golledion uniongyrchol neu a geir fel arall ymhlith darpar-raddedigion neu eu gwesteion.