Aircraft taking off

SUT MAE POBL YN HEDFAN

Mae'n bosib eich bod chi'n gyfarwydd â'r term "gwyddonydd rocedi" wrth gyfeirio at rywun hynod glyfar. Neu'r ymadrodd eironig “it’s not rocket science!” i nodi bod tasg yn hawdd ei chyflawni.

Yn aml cyfeirir at Beirianneg Awyrofod ar lafar fel "gwyddor rocedi", ond a bod yn hollol gywir, mae "gwyddoniaeth" yn ymwneud â deall tarddiad, natur ac ymddygiad y bydysawd, wrth i beirianneg ymwneud â defnyddio egwyddorion gwyddonol a pheirianneg i ddatrys problemau a datblygu technoleg newydd.

Mae awyrofod, neu beirianneg awyrenegol, yn ymdrin â dylunio ac adeiladu peiriannau sy'n hedfan yn atmosffer y Ddaear, megis awyrennau ag esgyll sefydlog a jetiau, gleidwyr, awtogyros, hofrenyddion a mwy.

Dyma un o'r canghennau mwyaf newydd ym maes peirianneg ac mae’n deillio o waith arloeswyr hedfanaeth yn y 19eg ganrif hwyr i ddechrau’r 20fed ganrif.  Un o'r bobl bwysicaf yn hanes peirianneg awyrofod oedd Syr George Cayley, sef yr unigolyn cyntaf i wahaniaethu rhwng grymoedd codi a llusgo, sydd ar waith mewn unrhyw gerbyd sy'n hedfan. 

Gellir dadlau mai'r brodyr Wright yw un o'r enwau enwocaf ym maes hedfanaeth. Yn gyffredinol fe'u cydnabyddir am ddyfeisio, adeiladu a hedfan awyren lwyddiannus gyntaf y byd.  Ym 1903, llwyddon nhw i gynnal yr hediad dan reolaeth gyson cyntaf ar gyfer awyren a oedd yn drymach nag awyr.   Er nad oeddent wedi adeiladu'r awyren arbrofol gyntaf erioed, y brodyr Wright oedd y rhai cyntaf i ddyfeisio rheolyddion awyrennau a alluogodd hedfan gydag esgyll sefydlog wedi'u pweru. 

Roedd gwybodaeth gynnar am beirianneg awyrofod i raddau helaeth yn cynnwys gwybodaeth empiraidd, gyda rhai cysyniadau a sgiliau a fabwysiadwyd o ganghennau eraill o beirianneg.   Erbyn y 18fed ganrif, roedd gwyddonwyr yn deall elfennau allweddol megis dynameg hylifau. Heddiw, mae elfennau eraill o awyrofod peirianneg yn cynnwys: gwyddor deunyddiau, thermodynameg, gyriad, strwythurau cyrff awyrennau, erodynameg, meddalwedd dylunio â chymorth cyfrifiadur a llawer mwy.

Fel peiriannwr yn y diwydiant hwn sy'n tyfu'n gyflym, gallwch ddisgwyl chwarae rôl allweddol wrth ddylunio, adeiladu, profi a chynnal a chadw ystod eang o awyrennau, gan ganolbwyntio ar agweddau amrywiol megis diogelwch wrth hedfan, effeithlonrwydd tanwydd, effaith amgylcheddol, costau gweithredu, cyfrifo amserlenni prosiectau, ysgrifennu llawlyfrau a datblygu technolegau newydd.  

Mae peirianwyr awyrofod yn meddwl mewn ffordd resymegol ac ymarferol ac maent yn awyddus i ddysgu sut mae pethau'n gweithio a sut i'w gwneud nhw'n well, gan gyfrannu'n sylweddol at ein byd sy'n newid drwy'r amser.

Dewch ar Daith Ddarganfod: Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe

Croeso i fyd deinamig Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae ffiniau arloesi'n cael eu gwthio'n barhaus, a'r awyr yw'r man cychwyn nid y cyfyngiad. Byddwch yn barod i ymgolli mewn cwricwlwm sy'n cynnig dealltwriaeth gyfannol o gymhlethdodau dylunio, hedfan ac archwilio'r gofod.