Ben Overland
![Ben Overland](/cy/biowyddorau/cyfleusterau/csar/myfyrwyr/israddedig/ben-overland_flume-540x238-q90.jpg)
Nod prosiect Ben oedd ymchwilio i weithrediad cwpan sugno ieir môr drwy amcangyfrif y cerhyntau dŵr angenrheidiol i'w symud o'r arwyneb maent wedi ymlynu wrtho.
Goruchwyliwr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz
Stefanos Kampouris
![Stefanos Kampouris](/cy/biowyddorau/cyfleusterau/csar/myfyrwyr/israddedig/Zebrafish.jpg)
Bu Stefanos yn cymharu llwyddiant atgenhedlu pysgod rhesog (Danio rerio) mewn amgylchedd wedi’i gyfoethogi a heb ei gyfoethogi. Bu hefyd yn asesu'r gwahaniaethau mewn lles sy'n gysylltiedig â nodweddion ymddygiadol mewn amgylchedd wedi'i gyfoethogi neu heb ei gyfoethogi.
Goruchwyliwr: Dr Sara Barrento
Shelby-Jay Lewis
![Shelby-Jay Lewis](/cy/biowyddorau/cyfleusterau/csar/myfyrwyr/israddedig/pleco-540x238-q90.jpg)
Mae mecanweithiau sugno'n nodweddion diddorol sydd i'w gweld mewn 2.72% yn unig o deuluoedd pysgod; eu diben yw galluogi'r pysgodyn i ymlynu wrth amrywiaeth o arwynebau gwahanol. Nod astudiaeth Shelby-Jay yw ymchwilio i batrymau dosbarthiad o fewn teuluoedd ac ateb y cwestiwn pam mai rhai pysgod yn unig sydd wedi datblygu'r nodwedd hon a sut yr esblygodd.
Goruchwylwyr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz
Shannon Higgins
![Shannon Higgins](/cy/biowyddorau/cyfleusterau/csar/myfyrwyr/israddedig/shannon-zebrafish-540x238-q90.jpg)
Bu Shannon yn archwilio dynameg gymdeithasol mewn pysgod rhesog (Danio rerio). Yn benodol, asesodd a yw’n well gan bysgod rhesog, pan gânt ddewis, fod gyda physgod o'r un ceraint â nhw, o geraint arall neu bysgod o rywogaeth debyg anghyfarwydd.
Goruchwyliwr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz
Connor Markham
![Connor Markham](/cy/biowyddorau/cyfleusterau/csar/myfyrwyr/israddedig/connor-_lumpfish-540x238-q90.jpg)
Nod prosiect Connor oedd ymchwilio i ddulliau o arafu cyfraddau tyfu mewn ieir môr (Cyclopterus lumpus). Ymchwiliwyd i hyn drwy amrywio'r ffoto-gyfnod a'r llif dŵr.
Goruchwyliwr: Yr Athro Carlos Garcia de Leaniz
Jean-Baptiste Woods
![Jean-Baptiste Woods](/cy/biowyddorau/cyfleusterau/csar/myfyrwyr/israddedig/jean-baptiste-algae2-540x238-q90.jpg)
Bu Jean-Baptiste yn asesu'r amodau maethol a fydd yn creu'r cyfanswm mwyaf o ffycoerythrin mewn Porphyridium purpureum, a ddefnyddir at nifer o ddibenion llifo diwydiannol.
Goruchwylwyr: Dr Carole Llewellyn a Dr Alla Silkina