Biosciences students snorkelling in the Red Sea

Cwrs Maes Bioleg Môr

Mae Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Abertawe'n pwysleisio addysgu ymarferol, a chynhelir dau fodiwl ymarferol dwys yn semester cyntaf Blwyddyn 2. Mae Cwrs Maes Bioleg y Môr (BIO260) yn defnyddio technegau ar y tir i samplu cynefinoedd morol; dyma'r chwaer-fodiwl i Fioleg Forol Seiliedig ar Gychod (BIO245), sy'n addysgu myfyrwyr sut i samplu o long ymchwil (yr RV Mary Anning). Cynhelir y cwrs maes preswyl hwn yn Dale Fort, yn uchel ar glogwyni ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Cymru â golygfeydd godidog dros y môr. Gellir cyrraedd y rhan fwyaf o'r glannau sy'n cael eu hastudio ar gerdded o'r lleoliad gwych hwn.

Cwrs Maes Bioleg Môr

Rhossili Bay
Students in Parkmill

Mae Cyflwyniad i Sŵoleg Maes

Mae Cyflwyniad i Sŵoleg Maes (BIO253) yn gwrs maes preswyl pum niwrnod ar gyfer holl fyfyrwyr ein gradd Sŵoleg. Fe'i cynhelir yn ardal hardd Stagbwll (Stackpole), yn Sir Benfro, gorllewin Cymru – ardal sy'n adnabyddus am ei morlin, ei choetiroedd a'i phyllau lili hardd â bywyd gwyllt sy'n cynnwys dyfrgwn, ystlumod trwyn pedol mawr, gweision y neidr ac adar dŵr. Bydd myfyrwyr ar y cwrs maes hwn yn cael profiad perthnasol o ddefnyddio dulliau arolygu proffesiynol a safonol ac ymarferol ar gyfer amrywiaeth eang o grwpiau o anifeiliaid, yn ogystal â datblygu sgiliau cymryd nodiadau yn y maes, dylunio arbrofol, gweithio mewn tîm a dadansoddi data i ategu cyflogadwyedd.

 

Taith Maes Borneo

Mae Borneo'n llawn bioamrywiaeth, gan gynnwys rhywogaethau endemig a phrin anhygoel. Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr arbrofi a chynnal gwaith maes mewn coedwig law ddigyfnewid ym Morneo. Bydd myfyrwyr yn cael profiad o lygad y ffynnon wrth arolygu planhigion ac anifeiliaid ac archwilio cysyniadau o ran ecoleg cymunedau, bioleg a chadwraeth poblogaethau mewn ecosystemau trofannol.

Ar ddiwedd y daith maes breswyl hon a fydd yn para am bythefnos, bydd myfyrwyr yn gallu archwilio cysyniadau o ran ecoleg drofannol, gwerthuso strategaethau cadwraeth cynefinoedd trofannol a rhoi technegau arolygu ecolegol ar waith mewn coedwig law drofannol.

Students in Borneo
Prayer flags over lake

Taith Faes Himalaya Indiaidd

Mae prifddinas Sikkim, Gangtok, yn ddinas syfrdanol wedi'i hadeiladu ar lethr serth gyda golygfeydd ysblennydd o Kangchendzonga, y 3ydd mynydd uchaf yn y byd. Mae'r ddinas wedi'i hamgylchynu gan fforest law isdrofannol, terasau reis, ac mae'n baradwys ar gyfer glöynnod byw a degeirianau. Mae Gangtok yn enwog fel canolfan astudio athroniaeth a chrefydd Bwdhaidd. Mae myfyrwyr Daearyddiaeth a Biowyddorau yn cael cyfle i gwrdd ag academyddion o Brifysgol Sikkim, mynachod Bwdhaidd, gwleidyddion lleol a Gweinidogion Sikkim ochr yn ochr â gwaith prosiect grŵp. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys ffenomena monsŵn, bioddaearyddiaeth a bioamrywiaeth, eco-dwristiaeth, a mudo.

Y Môr Coch, Yr Aifft

Ydych chi erioed wedi bod eisiau snorcelu riffiau cwrel anhygoel y Môr Coch, rhannu'r cefnfor â physgod trofannol hardd, bod yn ddigon ffodus i weld dwgong yn y gwyllt, neu ddod wyneb yn wyneb â chrwban? Mae ein cwrs Maes Ecoleg Môr Trofannol, wedi'i gynnal o ganolfan ym Mae Abu Dabbab, yn cynnig y cyfleoedd gwych hyn, a llawer mwy!

 

Yn ystod 14 diwrnod yn y maes, cewch gyfle i astudio mewn amgylchedd unigryw a chyffrous: gan snorcelu riffiau cwrel, mynd ar deithiau dydd i goedwigoedd mangrof anghysbell, gwelyau morwellt ac aneddiadau Bedwynaidd a chymryd rhan mewn prosiectau monitro rhyngwladol. Yn olaf, byddwch yn cynnal prosiectau ymchwil grŵp annibynnol ac yn defnyddio cyfleusterau rhagorol Prosiect y Môr Coch.

Students snorkelling in the Red Sea

Mae'r sgiliau penodol y bydd myfyrwyr yn eu meithrin o'r cwrs hwn yn cynnwys:

 

  • Adnabod pysgod a chwrel trofannol
  • Amcangyfrif maint pysgod ac ymddygiad pysgod yn y dŵr
  • Cwadratau cwrel
  • Snorcelu gyda'r nos (dewisol)
  • ‘Reef Check’ – dull arolygu a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n cynnwys arolygon pysgod, swbstradau ac infertebratau
  • Trawslunio a mapio mangrofau a morwellt

 

Cyrsiau Maes y Biowyddorau Lluniau

Mae gennym dri chynllun gradd yn y Biowyddorau - Bioleg, Sŵoleg a Bioleg y Môr. Nid oes cyrsiau maes ym mlwyddyn 1.