RV Mary Anning

Hanes

Ein llong ymchwil bwrpasol gwerth £1.5 miliwn yw'r 'Mary Anning'. Mae'n gatamarán 18.5 metr a ddyluniwyd yn bennaf ar gyfer addysgu ac ymchwil, ynghyd â gweithgareddau masnachol. Dyluniwyd y llong fel platfform gweithio sefydlog, wedi'i chyfarparu i ddefnyddio ystod eang o offer monitro a chasglu samplau gwyddonol mewn dyfroedd arfordirol ac alltraeth, ac mae'n ddigon cyflym i gyrraedd cyrchfannau yn gyflym os oes angen.

Fel llong ymchwil soffistigedig iawn sy'n benodedig hefyd ar gyfer addysgu, gallwn roi i’n graddedigion bioleg y môr brofiad ymarferol yn y byd go iawn wrth ddefnyddio ystod eang o offer samplu a thechnegau arolygu. Yn ystod eu hastudiaethau, bydd myfyrwyr bioleg y môr yn treulio dros 25 awr ar y llong a thrwy gydol y modiwlau hyn a gynhelir yno ar y llong bydd myfyrwyr yn dysgu sut i samplu gwahanol rywogaethau a chynefinoedd ar draws Bae Abertawe ac arfordir godidog Penrhyn Gŵyr. Mae hyn yn ein galluogi i addysgu i fyfyrwyr sgiliau sylfaenol pwysig ar gyfer eu hymchwil a'u bywyd proffesiynol yn y dyfodol, gan gynnwys gyrfaoedd ym myd diwydiant ac asiantaethau'r llywodraeth.

Mae gan y Mary Anning fwrdd starn mawr lle rydym yn defnyddio'r offer samplu yn bennaf, yn fewnol mae gennym labordy gwlyb a sych ar gyfer didoli samplau, labordy TG ar gyfer cofnodi a dadansoddi data ac ardal fawr â chegin ar gyfer seibiannau o'r gwaith. Ar fwrdd uchaf y llong, mae gennym blatfform pwrpasol ar gyfer cynnal arolygon arsylwi ar famaliaid morol.

Dilynnwch Y Mary Anning!

yr mary anning