Beth yw partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth?
- Partneriaeth rhwng tri pharti, sef sefydliad ymchwil, busnes a Cynorthwy-ydd Cyswllt (unigolyn graddedig â chymwysterau priodol);
- Mae’r Cynorthwy-ydd Cyswllt yn gweithio yn y busnes am 12 i 36 mis er mwyn datblygu’r prosiect a’i roi ar waith;
- Ariennir prosiectau’n rhannol gan Innovate UK a Llywodraeth Cymru;
- Mae busnesau’n cyfrannu rhwng 33% (busnesau bach a chanolig) a 50% (busnesau mawr) AC mae’n rhaid profi fforddiadwyedd;
- Mae angen i’r Cynorthwy-ydd Cyswllt fod yn unigolyn graddedig â chymwysterau priodol ynghyd â’r gallu i arwain prosiect busnes strategol;
- Derbynnir ceisiadau yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, ac fe’u hasesir ar sail: Effaith, Arloesi, Her, Cydlynoldeb.