Mae diogelu rhag rhydu yn hanfodol yn y diwydiant dur, sy’n gweithgynhyrchu cynnyrch o safon uchel a ddefnyddir mewn sectorau fel adeiladu, pecynnu, awyrofod ac awyrennau, a’r diwydiant ceir.
Felly bu’n ddarganfyddiad sylweddol pan wnaeth Alex Harold, sy’n fyfyrwraig ddoethur mewn peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe ar y cyd â Tata Steel UK, lwyddo i ddatblygu caen wrthrydu newydd ar gyfer dur sy’n ecogyfeillgar ac yn gadarn.
Gwnaeth ei hymchwil ddarganfod bod proteinau sy’n deillio o facteria yn y pridd yn gwaredu dŵr (sy’n eu gwneud, mewn gwirionedd, yn wrth-ddŵr) a gellir eu defnyddio i ddatblygu caen newydd sy’n fwy ecogyfeillgar, heb leihau perfformiad o gymharu â chaenau eraill a ddefnyddir ym myd diwydiant.