Croeso i BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe
Bydd Llinell Ymholiadau BywydCampws yn cau ar Ddydd Gwener 13 Rhagfyr am 12yp.
Gallwch e-bostio ein timau o hyd, neu ymweld â derbynfa BywydCampws, a bydd ar agor wythnos nesaf
10yb-4yp Dydd Llun - Dydd Iau, a 10yb-12yp ar Ddydd Gwener.
Bydd Derbynfa ac e-byst BywydCampws yn cau ar Ddydd Gwener 20 Rhagfyd am 12yp.
_________________________________________________________________________________________________________________
Rydym yn deall bod angen i ni eich cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn i chi allu mwynhau eich amser yn y Brifysgol i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth diduedd am ddim i fyfyrwyr, heb feirniadu, mewn amgylchedd cartrefol, cyfeillgar a chyfrinachol. Dewch i'n gweld i gael cymorth arbenigol gan ein wasanaethau Ffydd, Cymunedol, Rhyngwladol, Ariannol, Cyfranogiad a Llesiant.