Os ydych chi am gael cefnogaeth wrth drawsnewid gan y GIG yng Nghymru, bydd angen i chi gael eich cyfeirio'n gyntaf at Wasanaeth Rhywedd Cymru. Gallwch chi gael eich cyfeirio gan feddyg teulu ond mae dealltwriaeth o faterion rhywedd yn amrywio, felly gall rhai fod yn fwy o gymorth nag eraill. Mae Canolfan Iechyd y Brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn.
Ar ôl i chi gael eich cyfeirio, bydd rhywun yn cysylltu â chi i drafod pa fath o gymorth rydych chi'n chwilio amdano a gellir gwneud apwyntiadau am gymorth megis therapi lleferydd. Fodd bynnag, fyddwch chi ddim yn gallu cael cymorth i drawsnewid yn feddygol, er enghraifft, therapi amnewid hormonau, cyn cael apwyntiad cychwynnol gyda Gwasanaeth Rhywedd Cymru canolog. Ar hyn o bryd, 20 mis yw'r amser aros am apwyntiad cyntaf - gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr amser aros yma: https://gender.wales/.
Os byddwch chi'n gadael Cymru ac yn newid i Glinig Hunaniaeth Rhywedd mewn rhan arall o'r DU, mae'n bwysig sylwi efallai bydd rhaid i chi ddechrau ar waelod y rhestr aros. Felly, dylech chi feddwl yn ofalus a ydych chi'n debygol o aros yng Nghymru drwy gydol eich cyfnod ar y rhestr aros.
Yn dilyn eich apwyntiadau gyda Gwasanaeth Rhywedd Cymru, byddwch chi'n cael eich trosglwyddo i'r clinig rhanbarthol i barhau â'ch gofal. Mae clinig rhanbarthol Abertawe yn y Clinig Iechyd Rhywiol yn Ysbyty Singleton, a gall ddarparu gofal megis profion gwaed, monitro hormonau a rhoi pigiadau. Bydd Gwasanaeth Rhywedd Cymru canolog hefyd yn gyfrifol am eich cyfeirio ar gyfer llawdriniaeth os dyna'r gofal hoffech chi ei gael.
Yn y DU, mae'n rhaid eich bod wedi bod yn cael therapi amnewid hormonau am flwyddyn a chael dau atgyfeiriad am lawdriniaeth.
Os ydych chi'n derbyn gofal cadarnhau rhywedd yn breifat, mae'n bosib y bydd eich meddyg teulu yn fodlon rhagnodi i chi o dan cytundeb gofal a rennir. Fodd bynnag, penderfyniad y meddyg teulu yw hyn ac nid yw'n ofynnol iddo wneud hyn. Mae Canolfan Iechyd y Brifysgol wedi cytuno i wneud hyn yn y gorffennol, ond bydd angen i chi gytuno arno rhwng eich meddyg teulu a'ch darparwr gofal preifat. Mae presgripsiynau gan feddyg teulu yng Nghymru, sy'n cael eu paratoi mewn fferyllfa yng Nghymru, am ddim, felly gall hyn eich helpu gyda chostau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://cavuhb.nhs.wales/our-services/welsh-gender-service/