Cymorth i Ymadawyr Gofal
Mae'r syniad o fynd i'r brifysgol yn gyffrous, ond rydym ni'n deall y gall fod yn frawychus hefyd. Mae Cyfranogiad@BywydCampws yn darparu cyngor, cyfleoedd a gwybodaeth bwrpasol i ymadawyr gofal cymwys. Gallwn ni eich helpu chi i gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys llety, cymorth academaidd a chyllid gan eich galluogi chi i wneud penderfyniadau cadarnhaol a gwybodus am eich astudiaethau a'ch profiad yn y brifysgol.
Mae’r wybodaeth isod yn amlinelli’r pecyn cymorth ar gyfer ymadawyr gofal cymwys. Os ydych chi’n meddu ar brofiad o ofal, wedi bod dan ofal gwarcheidiaeth, heb rieni fyw neu yn rhywun sy’n byw mewn llety â chymorth awdurdod lleol, cysylltwch â ni, er mwyn trafod eich amgylchiadau a’r cymorth sydd ar gael i chi.
Gwybodaeth i Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Proffesiynol
Os ydych chi'n gweithio gydag Ymadawr Gofal sy'n ystyried gwneud cais i Brifysgol Abertawe ac mae gennych chi gwestiynau am y broses gwneud cais, cyllid neu'r pecyn cymorth sydd ar gael, mae croeso i chi gysylltu â ni a gallwn helpu gyda unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych. Bydd angen cydsyniad yr unigolyn dan sylw i drafod amgylchiadau unigol.
Er mwyn gallu asesu cymhwysedd ymgeisydd / myfyriwr i dderbyn y cymorth ychwanegol a gynigir i ymadawyr gofal cymwys, mae angen llythyr gan ei gynghorydd personol neu weithiwr cymdeithasol sy'n cadarnhau statws Gadael Gofal y person ifanc. Bydd angen i'r llythyr fod ar bapur pennawd, wedi'i lofnodi a’i ddyddio ac ar ffurf PDF a dylai gynnwys enw'r person ifanc, ei ddyddiad geni, y dyddiadau pan oedd y person ifanc dan ofal yr awdurdod lleol a chadarnhad bod ei amser mewn gofal yn bodloni ein meini prawf cymhwyso.
Nid oes angen copïau o ddogfennau sensitif yn ymwneud â chyfnod person ifanc mewn gofal, nac adroddiadau proffesiynol nac achos gorchymyn llys, felly peidiwch â darparu'r rhain. Os nad ydych yn siŵr pa dystiolaeth i'w darparu, cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.
Cyfrinachedd
Ymdrinnir â holl wybodaeth gan Cyfranogiad@BywydCampws yn gwbl gyfrinachol. Ar yr achlysuron y bydd angen i ni ymgynghori â staff o adran arall neu o sefydliad allanol gwneir hyn ar ôl derbyn caniatâd gennych chi yn gyntaf.
Cysylltwch â Ni
Os hoffet ti gysylltu â ni, e-bostia participation.campuslife@abertawe.ac.uk
Mae’n rhaid i fyfyrwyr presennol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu â Cyfranogiad@BywydCampws.