Bwrsariaeth Myfyrwyr sydd wedi'u Dieithrio*
Mae'r Fwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi'u dieithrio ar gael i'r holl fyfyrwyr o'r DU sy'n astudio llawn amser a rhan-amser ar raglenni israddedig a addysgir. Rydym ni'n cynnig Bwrsariaeth i Fyfyrwyr sydd wedi'u dieithrio gwerth £800 ym mhob blwyddyn astudio i fyfyrwyr israddedig, wedi'i rhannu i ddau daliad yn ystod pob blwyddyn academaidd. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn derbyn taliad pro rata.
Nid yw myfyrwyr Ôl-raddedig, myfyrwyr PhD a myfyrwyr sy’n cwblhau ail radd (gan gynnwys Meddygaeth i Raddedigion a TAR) yn gymwys i dderbyn yr holl gymorth neu fwrsariaethau ychwanegol, ond gallant gael blaenoriaeth o ran Cronfeydd Caledi Arian@BywydCampws.
*Mae amodau a thelerau’n berthnasol. Mae'r ffigurau canlynol yn gywir ar gyfer cofrestru 2024/25. Sylwer bod lefelau bwrsariaeth yn destun newid.
Pecyn Croeso
Rydym yn deall efallai na fydd gennych yr holl hanfodion sylfaenol y mae eu hangen arnoch i symud i'ch llety newydd. Os ydych yn poeni am gost prynu eitemau megis dillad gwely ac offer i'r gegin, cysylltwch â ni.
Benthyg Gliniadur
Os nad oes gliniadur gennych chi ac mae angen i chi fenthyg un wrth i chi ystyried eich opsiynau o ran dod o hyd i un newydd, mae gennym ni gyflenwad bach o liniaduron y gellir eu benthyg a allai fod o gymorth i chi. Cysylltwch â ni os bydd angen i chi fenthyg gliniadur.
Sesiwn Rheoli eich Arian a Chyllidebu
Telir Benthyciadau Myfyrwyr mewn tri rhandaliad. Fel myfyriwr, mae'n bosibl mai dyma'r tro cyntaf y bydd rhaid i chi drin symiau arian mor fawr. I'ch helpu i wneud hyn yn llwyddiannus, mae Arian@BywydCampws wrth law i roi cyngor a chyfarwyddyd ar gyllidebu.
Mynediad Blaenoriaeth at Gronfeydd Caledi
A chithau'n myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio, mae gennych flaenoriaeth i gael mynediad at Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe. Diben y dyfarniad hwn yw helpu myfyrwyr sydd wedi wynebu anawsterau ariannol annisgwyl. Nid oes sicrwydd y cewch ddyfarniad gan y gronfa, ond nid oes angen ei ad-dalu os ydych yn ei dderbyn.
Llety’r Brifysgol Drwy Gydol y Flwyddyn
Gall Prifysgol Abertawe warantu llety 365 niwrnod y flwyddyn ar y campws i chi yn eich blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, gan gynnwys dros y Nadolig, y Pasg, a gwyliau’r haf, cyhyd â'ch bod yn cyflwyno cais yn ddigon cynnar. Fel arall, byddwn hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i lety preifat yn yr ardal leol os oes angen cymorth arnoch.
Cymorth Llyfrgell
A chithau'n fyfyriwr sydd wedi’ch dieithrio o’ch teulu, mae gennych fynediad at gyswllt a enwir drwy'r tîm Library Plus sy'n gallu cynnig gwasanaethau cymorth. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen Cymorth Llyfrgell.
Discovery SVS a Chymorth Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Os ydych chi'n dymuno cael cyfleoedd gwirfoddoli neu gyngor ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd, gallwn ni eich cefnogi wrth feithrin cysylltiadau â Discovery SVS ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe.
Mynediad â Gostyngiad neu Am Ddim i’r Sesiynau Sgiliau am Oes
Mae Sgiliau am Oes yn cynnig amrywiaeth o weithdai i wella sgiliau bywyd gan gynnwys cymorth cyntaf, gweithio mewn caffi a dod o hyd i'ch ffordd. Mae gan bob gweithdy nifer dynodedig o leoedd gostyngedig neu am ddim arfyfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd. Mae'r lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i'r felin a bydd gennych amser cyfyngedig i gadw eich lle.
Mynediad i'r Cynllun Myfyrwyr Llysgennad
Fel myfyriwr, gallwch wneud cais i fod yn Fyfyriwr Llysgennad. Byddwn yn rhoi gwybod pan fydd y cyfnod gwneud cais ar agor, ac rydym yn hapus i helpu wrth gwblhau cais a pharatoi ar gyfer cyfweliad. Byddwn hefyd yn gallu eich cyfeirio at Reolwr y Cynllun Myfyrwyr Llysgennad..