Yn eich cefnogi i lwyddiant:
Mae Abertawe'n adnabyddus am fod yn ddinas gynhwysol a chroesawgar a chanddi amrywiaeth helaeth o ddiwylliannau a chefndiroedd ethnig sy'n cyfrannu at ddiwylliant bywiog y ddinas. Gwelir yr un ymroddiad hwn i ddarparu amgylchedd meithringar yn y Brifysgol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwr presennol a darpar fyfyrwyr sy'n ceisio noddfa yn y DU.
Rydym yn cefnogi myfyrwyr ac ymgeiswyr sydd â’r statws canlynol:
- Ceiswyr Lloches
- Ffoaduriaid
- Y rhai sydd â Chaniatâd Cyfyngedig neu Ganiatâd yn Ôl Disgresiwn i Aros*
- Y rhai sydd â Diogelwch Dyngarol*
*o ganlyniad i hawlio lloches