Yn eich cefnogi i lwyddiant:
Mae Abertawe'n adnabyddus am fod yn ddinas gynhwysol a chroesawgar a chanddi amrywiaeth helaeth o ddiwylliannau a chefndiroedd ethnig sy'n cyfrannu at ddiwylliant bywiog y ddinas. Gwelir yr un ymroddiad hwn i ddarparu amgylchedd meithringar yn y Brifysgol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
DINAS NODDFA
Ym mis Mai 2010, daeth Abertawe'n ail Ddinas Noddfa swyddogol y DU, gan ymuno â'r mudiad cenedlaethol sy'n ymrwymedig i feithrin diwylliant o letygarwch i'r rhai sy'n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth.
Yn ogystal ag annog busnesau a sefydliadau lleol i groesawu pobl sy'n ceisio noddfa i'w gweithgareddau, mae Dinas Noddfa hefyd yn cynnal y cynllun mentora, Croeso Gwell i Abertawe. Mae gwirfoddolwyr yn helpu pobl i integreiddio yn y gymuned, gan fagu hyder a lleihau unigrwydd.