Taliad Cyfoethogi Academaidd:

Mae'n bleser gan Cyfranogiad@BywydCampws gyhoeddi y byddwn yn cynnig dyfarniad nad oes angen ei ad-dalu i fyfyrwyr cymwys sy'n ceisio Lloches, i wella eu profiad academaidd yn y Brifysgol.

Dyfarniadau gwerth hyd at £250. Sylwch mai dim ond un taliad y gallwn ei ganiatáu fesul myfyriwr fesul blwyddyn academaidd.

Pwy sy'n gymwys?

I fod yn gymwys i gyflwyno cais am y Taliad Cyfoethogi academaidd, rhaid i chi:

  • Fod yn fyfyriwr cofrestredig presennol
  • Darparu tystiolaeth am eich statws fel un o'r canlynol:
    • ceisiwr lloches
    • ffoadur
    • rhai sydd â chaniatâd cyfyngedig/yn ôl disgresiwn i aros neu'r rhai sydd â diogelwch dyngarol o ganlyniad i hawlio lloches

I ofyn am ffurflen gais, e-bostiwch: Sanctuary@abertawe.ac.uk

Sylwch y bydd ceisiadau'n agor yn y tymor cyntaf - gwiriwch yn ôl am ragor o wybodaeth am ddyddiadau a thelerau ac amodau.