COA Myfyrwyr
Pa wasanaethau sydd ar gael ar y Campws ar hyn o bryd?
Rydym yn cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth am ddim i bob myfyriwr mewn amgylchedd cyfeillgar a chyfrinachol. Darllenwch sut i gysylltu â'r gwasanaethau YMA
Gallwch gael CYMORTH LLES hefyd drwy glicio yma: Cymorth Lles - Prifysgol Abertawe neu drwy e-bostio wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar gael hefyd yn: beth sy'n digwydd ar y campws ac oddi ar y campws a Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr - Prifysgol Abertawe a Bywyd ar y Campws - Prifysgol Abertawe
Gallwch ddod o hyd i fanylion eich tiwtor personol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif MyUni .
Sut ydw i'n dod o hyd i dderbyniad BywydCampws?
Mae derbyniad BywydCampws yng nghefn adeilad Talbot - os dewch chi i mewn o gyfeiriad Faraday o'r Mall, ac yn cerdded heibio'r UM tuag at Talbot, ac yn dilyn y coridor i'r dde heibio'r Gwasanaeth Lles, yna gallwch ddod o hyd i dderbynfa BywydCampws!
Os oes angen help arnoch i canfod adeilad Talbot, gallwch defnyddio'r dolen Google Maps hyn! Neu, gofynnwch i aelod o staff yn yr UM neu yn Nhy Fulton.
Mae gennyf problem ynglyn â ble rydw i'n byw, beth galla i wneud?
Os oes gennych problem, cysylltwch â'r Canolfan Cyngor a Chymorth trwy ebost: advice@swansea-union.co.uk
Mae'r tîm yma i'ch cefnogi ym mha ffordd bynnag y gallwn mewn ffordd ddiogel a chyfrinachol. Rydym yn cynnig gwasanaethau megis cymorth gydag e-byst ac unrhyw arweiniad pellach.
Mae croeso i chi gysylltu â ni, rydym am i'ch amser yn y Brifysgol fod yn brofiad cadarnhaol ac rydym yma i helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn.
Mae gen i broblemau gyda fy nghymydog, beth gallaf ei wneud?
Os ydych chi'n cael trafferth gyda chymdogion, yna gallwch gysylltu â'r Tîm Cyswllt Cymunedol drwy e-bost: Community@CampusLife.ac.uk .Gwneir hyn mewn modd cyfrinachol lle cynigir cymorth ac arweiniad i chi. Rydym hefyd yn cyfeirio at asiantaethau allanol os oes angen.
Caniatewch hyd at 5 diwrnod gwaith ar gyfer ymateb gan ein tîm.
Gallwch hefyd gysylltu â Heddlu De Cymru dros y ffôn (101 ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys, 999 ar gyfer argyfyngau).
Os yw'n fater sy'n gysylltiedig â sŵn, gallwch gysylltu â thîm llygredd sŵn Cyngor Abertawe YMA
Os yw'n gysylltiedig â sbwriel neu wastraff, rydych yn defnyddio system adrodd sbwriel Cyngor Abertawe YMA.
Rwyf wedi dioddef trosedd, at bwy gallaf droi?
Os ydych wedi dioddef trosedd, rydym yn eich annog i roi gwybod i Heddlu De Cymru. Gallwch wneud hyn drwy ffonio 101 os nad yw'n argyfwng, defnyddio eu porth hysbysu ar-lein www.south-wales.police.uk neu drwy ffonio 999 mewn argyfwng.
Os oes angen help neu gymorth arnoch wrth wneud hyn, gallwch gysylltu â ni yma yn nhîm BywydCampws a byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo a'ch tywys drwy'r broses.
Gallwn hefyd eich cyfeirio at lawer o'n gwasanaethau cymorth mewnol yma ym Mhrifysgol Abertawe.
A alla’ i ddod â’m car i'r Brifysgol a ble gallaf barcio?
Fel rhan o'n hymdrechion i fod yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2035, rydym yn annog myfyrwyr a staff i ddewis opsiynau teithio llesol a chynaliadwy lle bynnag y bo modd. I'r rhai sy'n byw ymhellach i ffwrdd yna rydym yn argymell y gwasanaethau bysiau lleol. Mae'r Brifysgol yn cynnig parcio Talu ac Arddangos dros nos rhwng 4pm ac 8am. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl ar dudalen Teithio Prifysgol Abertawe
Os ydych yn byw yn y gymuned, gallwch wneud cais am drwydded parcio i breswylwyr, ond dim ond nifer cyfyngedig o drwyddedau sydd ar gael ar gyfer pob cartref. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y trwyddedau hyn, sut i wneud cais, a'r meini prawf ar gyfer gwneud cais ar wefan Cyngor Abertawe.
Mae gan y Brifysgol gysylltiadau cryf â First Cymru Buses sy'n rhedeg gwasanaethau rheolaidd ledled Abertawe yn rheolaidd! Os ydych chi'n deithiwr rheolaidd, edrychwch ar docynnau'r myfyrwyr!
Gallwch anfon e-bost atom bob amser am fwy o wybodaeth, a byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo neu eich cyfeirio at yr adran gywir i'ch cynorthwyo ymhellach.
Mae gen i broblemau gyda’m Landlord, beth gallaf ei wneud?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr bod eich landlord wedi'i gofrestru ar Rhentu Doeth Cymru. Os nad ydynt, rhowch wybod am hyn a gwnewch Gyngor Abertawe yn ymwybodol.
Fel arall, gallwch hefyd ddod o hyd i ystod o gymorth gan yr Undebau Myfyrwyr sy'n cynghori centreadvice@swansea-union.co.uk. Gallant gynorthwyo gydag amrywiaeth o faterion megis cyngor ar gontract, blaendaliadau, adfail ac anghydfodau landlord/asiantaeth.
Gallwch gysylltu â ni yma yn BywydCampws lle, yn dibynnu ar eich mater, byddwn yn darparu cyngor ac arweiniad i'ch cefnogi i ddatrys eich mater. Os oes angen, gallwn ofyn am gyngor gan asiantaethau allanol fel iechyd yr amgylchedd.
Mae gen i problemau gyda fy sbwriel, oes help ar gael?
Gwylanod, llwynogod, llygod mawr - mae pob un yn dramgwyddwyr pan ddaw'n fater o wasgaru sbwriel ar draws y stryd ar ddiwrnod biniau! Os ydych chi'n cael problemau gyda'ch bagiau bin yn cael eu rhwygo, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn y camau hanfodol hyn:
- Golchwch unrhyw gynwysyddion bwyd cyn cael gwared arnynt! Bydd anifeiliaid yn rhwygo bagiau yn agored i gyrraedd arogl y bwyd - os ydych chi'n golchi unrhyw gynwysyddion bwyd, does dim byd i'w hudo i mewn!
- Trefnwch eich sbwriel yn iawn! Mae Abertawe'n defnyddio system o fagiau gwyrdd, pinc, bwyd a du. Rhowch blastig caled yn eich bagiau pinc a gwastraff cyffredinol yn eich bagiau du. Papur/cardbwrdd mewn bag gwyrdd AR WAHÂN oddi wrth dun/metel/gwydr - dylai hwn fynd mewn bag gwyrdd ar wahân. Yn aml mae'n syniad da cael 2 fag gwyrdd ar agor unrhyw bryd fel y gallwch wahanu'ch gwastraff wrth fynd! Yn olaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar unrhyw wastraff bwyd yn eich bin bwyd ac NID yn eich bagiau du. Mae lapio unrhyw eitemau miniog hefyd yn atal y bagiau rhag rhwygo!
- Defnyddiwch eich cyfleusterau storio biniau! Mae gan y rhan fwyaf o dai ryw fath o storfa finiau, boed yn fin bach neu'n gynhwysydd mawr. Mae storio eich biniau yn ddiogel rhag unrhyw anifeiliaid tan y diwrnod bin yn ffordd dda o osgoi unrhyw broblemau. Rhowch eich biniau allan yn hwyr y noson cyn y diwrnod casglu i leihau'r risg o 'ymosodiad' ymhellach.
- Gwiriwch yr amserlen! Mae'r cyngor bob yn ail wythnos 'GWYRDD' a 'PINC'. Ar wythnosau GWYRDD gallwch gael gwared ar fagiau gwyrdd, gwastraff bwyd a gwastraff gardd. Ar wythnosau PINC gallwch gael gwared ar fagiau pinc, bagiau du, a gwastraff bwyd. Dylai eich tŷ fod wedi derbyn calendr gyda'r wybodaeth hon, ond gallwch wirio hyn ar unrhyw adeg trwy ymweld â Chwiliad Ailgylchu Cyngor Abertawe
- Cadwch at y terfyn! Caniateir 3 bag bin du i bob cartref - dim mwy na hyn ac efallai na fydd eich gwastraff yn cael ei gasglu! Nid oes cyfyngiad ar fagiau gwastraff gwyrdd/bwyd! Os ydych chi'n cynhyrchu mwy na 3 bag du o wastraff bob pythefnos, siaradwch â'ch landlord a fydd efallai'n gallu trefnu casgliadau mwy.
Mae pawb yn gwneud camgymeriadau, yn enwedig wrth ddefnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf. Fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod bob amser yn tynnu unrhyw fagiau a ddefnyddiwyd yn anghywir o ymyl y ffordd cyn gynted â phosibl i'w storio a/neu eu didoli yn barod ar gyfer y casgliad nesaf.
Os methwch â'u trefni erbyn y diwrnod ar ôl eich casgliad byddant yn cael eu clirio gan ein criw glanhau strydoedd a gallech dderbyn hysbysiad cosb benodedig o £100! Ddim yn ffordd ddelfrydol i nodi eich amser yn Abertawe.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu faterion eraill yn ymwneud â gwastraff, cysylltwch â'n tîm trwy e-bost.
Rwy'n poeni am costau byw, â phwy gallaf gysylltu?
Gall symud o'ch cartref i'r Brifysgol fod yn anodd ac yn llawn straen. Serch hynny, does dim angen poeni, mae ein tîm Arian@BywydCampws wedi llunio canllaw hwylus i fyfyrwyr sy'n nodi'r hyn y dylech ei ystyried o ran costau byw, edrychwch ar y dudalen costau byw i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych ragor o ymholiadau, mae ein tîm bob amser yn hapus i helpu, e-bostiwch ni gyda rhagor o gwestiynau/bryderon.
Hoffwn ymwneud mwy â Digwyddiadau Cymunedol, pwy sy'n gallu helpu?
Following us on social media is a great way to find out how you can get involved with the community! Our handle is CampusLifeSU on all platforms!
If you live near Singleton Campus, you might also want to join the Brynmill & Uplands Community Forum page on Facebook! Please note that you may be asked to log-in to Facebook upon following the link!
Mae dilyn BywydCampws ar cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych i ddarganfod sut yr allwch ymuno'r cymuned! Ein enw yw CampusLifeSU ar bob platfform!
Os ydych yn byw yn agos i Gampws Singleton, efallai hoffwch ymuno'r 'Brynmill & Uplands Community Forum' ar Facebook. Nodwch efallai bydd angen i chi mewngofnodi ar ol dilyn y ddolen!
Mae'n anodd i mi wneud ffrindiau/cymdeithasu, pa gyngor sydd ar gael?
Gallwch bori neu ymaelodi â chlwb chwaraeon neu gymdeithas unrhyw bryd ar wefan Undeb y Myfyrwyr. Bydd llawer o gyfleoedd i chi ddysgu rhagor am yr hyn maen nhw'n ei gynnig yn ystod y cyfnod croeso.
Am restr lawn o gymdeithasau a rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Cymdeithasau gwefan Undeb y Myfyrwyr.
Gallwch canfod digwyddiadau ar dudalen digwyddiadau'r UM. Mae yna ystod eang o digwyddiadau am ddim ac am gost, wedi'i rhedeg gan BywydCampws ac adrannau eraill y Brifysgol. Mae'n cyfle wych i drafod a chysylltu ag eraill!
Os ydw i'n byw ar gampws, a ddylwn i dod atoch chi?
Mae Cymuned@BywydCampws yma i helpu myfyrwyr sy'n byw oddi ar y campws a'r gymuned leol. Nid ydym yn ymdrin â materion sy'n digwydd ar y naill gampws neu'r llall - yn yr achosion hyn cysylltwch â gwasanaethau preswyl trwy eu gwefan. Gallwch hefyd gysylltu â tim diogelwch naill campws dros y ffôn (333 ar gyfer ffonau mewnol, 01792 604271 ar gyfer ffonau symudol) neu drwy'r ap SafeZone
Rydw i'n aelod o PCYDDS, ydy'r gwybodaeth hyn yn berthnasol i mi?
Er y gall rhywfaint o’r wybodaeth hon fod yn berthnasol i chi, byddem yn argymell eich bod yn mynd i wefan PCYDDS am ragor o wybodaeth:
Gwasanaethau Myfyrwyr - hwb@uwtsd.ac.uk
Rhaglen Cymorth i Fyfyrwyr - Ffoniwch 0800 082 3766
Undeb Myfyrwyr PCYDDS - union@uwtsd.ac.uk
Rydw i wedi cael Hysbysiad Cam 1? Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae Hysbysiad Cam 1, fel y mae ei enw'n awgrymu, yn fwy o hysbysiad na rhybudd. Mae'r rhain yn cael eu dosbarthu i fyfyrwyr sy'n byw mewn tai i'w gwneud yn ymwybodol bod cwyn wedi'i gwneud yn eu herbyn - boed hynny ar gyfer sŵn, sbwriel, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu unrhyw beth arall a fyddai'n cyfiawnhau cwyn. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eich bod mewn trafferth, ond gallwch ddisgwyl ymweliad gan y Swyddog Cyswllt Cymunedol a'r SCCH lleol i gael gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi achosi'r gŵyn ac i gynnig unrhyw gymorth a all helpu i ddatrys y mater.
Isod mae rhai Cwestiynau Cyffredin yn ymwneud â hysbysiadau Cam 1:
Pam ydw i wedi cael hysbysiad Cam 1?
Os ydych wedi cael hysbysiad cam 1 mae'n golygu bod rhywun wedi gwneud cwyn yn erbyn eich aelwyd. Bydd pawb sy'n byw yn eich aelwyd sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn cael yr un hysbysiad â chi. Dilynir yr hysbysiad gan ymweliad gan y Swyddog Cyswllt Cymunedol a Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) o dîm plismona'r brifysgol, neu dîm plismona'r gymdogaeth leol. Byddant yn trafod y gŵyn ac yn dod o hyd i'r ffordd orau y gallwn eich cefnogi i ddatrys y mater hwn. Y nod yw eich helpu chi, a byddwch chi'n ein helpu ni, i ddeall beth sy'n digwydd yn yr aelwyd.
A allwch ddweud wrthyf pwy wnaeth y gŵyn yn fy erbyn?
Gall cwyn ddod i law tîm cymunedol y brifysgol o wahanol ffynonellau: y cyngor lleol, yr heddlu neu aelod o'r cyhoedd. Yn ôl rheoliadau'r GDPR, ni fyddwn yn gallu datgelu unrhyw wybodaeth am yr achwynydd ar hyn o bryd.
Beth gallaf ei wneud os nad wyf yn cytuno â'r gŵyn?
Mae ymweliad gan ein Swyddog Cyswllt Cymunedol yn gyfle gwych i egluro amgylchiadau'r gŵyn ac archwilio unrhyw gamddealltwriaeth a allai fod wedi digwydd. Ein nod yw deall y sefyllfa'n gynhwysfawr a chefnogi myfyrwyr sy'n byw yn y gymuned fel y gallant feithrin perthnasoedd cryf ac iach. Yn ystod ymweliad Cam 1 cewch gyfle i esbonio'r sefyllfa yn eich geiriau eich hun.
A fydd fy landlord yn cael gwybod am y gŵyn?
Bydd, bydd eich landlord yn cael gwybod am y gŵyn.
Beth os nad wyf yn gyfrifol am y rhesymau y tu ôl i’r gŵyn (h.y. nid fi a wnaeth y sŵn, neu roeddwn i i ffwrdd ar ddyddiad y digwyddiad)?
Pan fyddwn yn derbyn cwyn, byddwn yn cysylltu â'r holl fyfyrwyr yn yr aelwyd. Yn ystod y cyfarfod gyda'n Swyddog Cyswllt Cymunedol, byddwch yn gallu cynnig unrhyw wybodaeth sydd gennych am achos posibl y gŵyn a rhannu unrhyw amheuon sydd gennych. Fodd bynnag, fel tenant mae gennych gyfrifoldeb am yr hyn sy'n digwydd yn eich aelwyd, ni waeth a ydych chi yno ai peidio.
A all y Brifysgol fy nghefnogi i wneud iawn am yr hyn a ddigwyddodd?
Os ydych chi’n cydnabod ar hyn o bryd fod cyfiawnhad dros y gŵyn, bydd ein Swyddog Cyswllt Cymunedol yn trafod beth gallwch chi ei wneud i wneud iawn am y sefyllfa. Yn aml bydd cysylltu â chymdogion, cyflwyno eich hun a gadael gwybodaeth gyswllt yn helpu trigolion yn y gymuned i feithrin perthnasoedd da. Osgoi sefyllfaoedd a allai arwain at gwynion yn y dyfodol yw'r ffordd orau o sicrhau hyn.
 phwy y dylwn i gysylltu os ydw i'n teimlo bod rhywun yn cwyno amdanaf mewn modd annheg?
Os ydych chi'n credu bod hyn yn digwydd, mae'n hanfodol bwysig eich bod chi'n cysylltu â ni yn community.campuslife@abertawe.ac.uk. Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu'n teimlo dan fygythiad, ffoniwch yr Heddlu ar 999 mewn argyfwng, neu ar 101 ar gyfer sefyllfaoedd nad ydynt yn rhai brys.
Beth yw Rhybudd Cam 2?
Pam ydw i'n cael rhybudd Cam 2 os ydw i eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r gŵyn wreiddiol?
Anfonir rhybudd Cam 2 os byddwn yn cael cwyn arall yn ystod yr un flwyddyn academaidd ar ôl ymweliad y Swyddog Cyswllt Cymunedol ar gyfer eich hysbysiad Cam 1. Yng Ngham 2 bydd yn rhaid i chi fynd i gyfarfod gorfodol gyda'r Swyddog Cyswllt Cymunedol, Rheolwr Tîm BywydCampws a Thîm Plismona'r Brifysgol i drafod y mater ymhellach. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno unrhyw dystiolaeth a allai brofi bod y gŵyn yn ddi-sail neu wedi'i datrys. Mae'r Tîm Cymunedol yn asesu a oes unrhyw faterion sylfaenol a allai fod yn achosi'r gŵyn a'ch cefnogi i fynd i'r afael â nhw. Os bydd angen, byddant hefyd yn eich cyfeirio at unrhyw wasanaethau eraill y Brifysgol rhag ofn y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn mynd i'r cyfarfod?
Mae'r cyfarfod Cam 2 yn orfodol, a rhaid i chi fod yn bresennol. Mae modd gwneud rhai cyfaddawdau - er enghraifft ymuno â'r cyfarfod dros Zoom yn seiliedig ar amgylchiadau unigol. Os na fyddwch yn bresennol yn y cyfarfod heb reswm dilys, bydd y broses yn symud ymlaen i Gam 3 a allai arwain at gamau disgyblu.
Allwch chi helpu i gyfryngu gyda'r achwynydd?
Os oes angen gwasanaethau cyfryngu arnoch, bydd Tîm Cyngor Undeb y Myfyrwyr yn gallu eich helpu.
A fydd yr achwynydd yn bresennol yn y cyfarfod?
Na fydd, dim ond myfyrwyr a staff y Brifysgol fydd yn ymuno â'r cyfarfod.
A fydd y gŵyn hon yn effeithio ar fy sefyllfa academaidd?
Nid ar hyn o bryd. Ni fydd unrhyw gofnod o'r gŵyn hon yn cael ei roi ar eich cofnod prifysgol. Fodd bynnag, os gwneir cwyn arall, cewch eich cyfeirio at Gam 3 o'r broses (gweler isod).
Beth sy'n digwydd yng Ngham 3?
Os byddwch yn cael rhybudd Cam 3, mae hyn yn golygu eich bod wedi cael trydedd gŵyn yn eich erbyn. Bydd disgwyl i chi fod yn bresennol mewn cyfarfod gorfodol gyda Chyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr a'r Swyddog Cyswllt Cymunedol. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno unrhyw dystiolaeth a allai brofi bod y gŵyn yn ddi-sail neu wedi'i datrys. Os canfyddir bod cyfiawnhad dros y gŵyn a bod digon o dystiolaeth, gall Cyfarwyddwr Bywyd Myfyrwyr gyfeirio'r gŵyn at y Gwasanaethau Addysg, lle ymchwilir i'r gŵyn yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu Prifysgol Abertawe.
Byddwch yn cael gwybodaeth am sut i gael mynediad at wasanaethau cymorth gan y brifysgol. Mae Canolfan Cyngor Undeb y Myfyrwyr yno hefyd i'ch cefnogi dan yr amgylchiadau hyn.
Cysylltiadau Cymunedol Defnyddiol
Heddlu De Cymru - 999 (mewn argyfwng) NEU 101 (dim brys)
Cyngor Abertawe - Ailgylchu a Sbwriel
Cyngor Abertawe - Tai
Cyngor Abertawe - Llygredd Sŵn
Cyngor Abertawe - Parcio
Llesiant @BywydCampws - Gwefan
Rhyngwladol @BywydCampws - Gwefan (Saesneg)
Arian @BywydCampws - Gwefan
Cydraddoldebau @BywydCampws - Gwefan
Cyfranogiad @BywydCampws - Gwefan