Beth rydym yn ei wneud
Mae'r Tîm Cymuned yma i'ch helpu i deimlo'n ddiogel ac wedi'ch cysylltu â'ch cymuned leol, ac i'ch cefnogi gydag unrhyw broblemau allai fod gennych wrth fyw oddi ar y campws.
Ein nod yw hybu cydlyniad cymunedol rhwng ein myfyrwyr a phreswylwyr lleol drwy ein gwasanaethau. Gallai hyn fod drwy gefnogaeth megis eich helpu i ymdrin â gweithdrefnau cwyno, neu ar nodyn mwy positif, drwy gynnal digwyddiadau yn y gymuned ar gyfer myfyrwyr a phreswylwyr.
Gallwch gysylltu â'ch Swyddog Cyswllt Cymunedol, drwy e-bostio community.campuslife@abertawe.ac.uk.
Ei rôl yw cynrychioli myfyrwyr ac aelodau'r gymuned, yn ogystal â chysylltu â'n partneriaid yn y cyngor lleol, yr heddlu a'r sector llety preifat. Mae yn ymweld yn rheolaidd ag ardaloedd lle mae llawer o fyfyrwyr yn byw, megis Uplands, Brynmill a Thwyni Crymlyn, felly cofiwch fynd ati am sgwrs os byddwch yn ei gweld.
Cofiwch cadw at y Siarter Myfyrwyr, gallwch chi ddarganfod y siarter yma.