Pam penderfynoch chi ddod i Brifysgol Abertawe?
Ces i fy magu yn Abertawe ond dim ond ar ôl i mi adael i astudio Peirianneg Awyrenneg yng Nghaergrawnt y sylweddolais i fod yr ardal hon mor nodedig. Yn ystod fy mhedair blynedd yng Nghaergrawnt, roeddwn i’n benderfynol o ddychwelyd i Abertawe a sefydlu gyrfa yma yn ne Cymru ar ôl i mi raddio. Clywais i fod grŵp ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn modelu cyfrifiadol yn Adran Peirianneg Abertawe; felly, yn fy mlwyddyn olaf o astudio yng Nghaergrawnt, dechreuais i archwilio’r posibiliadau o wneud astudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe. Dyna pryd cwrddais i â’r Athro Ken Morgan a’r Athro Oubay Hassan, a fyddai’n goruchwylio fy PhD ymhen amser.
Sut daethoch chi’n rhan o brosiect Bloodhound?
Tua’r amser pan oeddwn i’n ysgrifennu traethawd ymchwil fy PhD, a oedd yn seiliedig ar ddatblygu dull modelu cyfrifiadol newydd i ddatrys hafaliad Boltzmann ar gyfer dynameg nwy moleciwlaidd, roeddwn i wedi dechrau meddwl am fy ngham nesaf. Roeddwn i wedi bwriadu mynd i faes addysgu (rwy’n dod o deulu o athrawon ac roedd yn ymddangos yn llwybr amlwg i mi), ond aeth y cynllun hwnnw o’r neilltu pan ges i gynnig i weithio am dair blynedd yn arwain y broses o fodelu dynameg hylifol gyfrifiadol y car Bloodhound yn yr ymgyrch i dorri record y byd am gyflymdra ar dir (roedd y Brifysgol eisoes wedi meithrin perthynas â Richard Noble ac aelodau’r tîm yn sgil yr ymgais i dorri’r record gyda’r car uwchsonig Thrust). Roedd yn gyfle rhy dda i’w wrthod!
Beth yw eich rôl chi yn y prosiect?
Ers 2008, rwyf wedi arwain y gwaith modelu aerodynamig ar gyfer dylunio Bloodhound. Rwyf wedi cyflawni’r rôl hon ochr yn ochr â gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, fel Cynorthwy-ydd Ymchwil i ddechrau ac yn ddiweddarach fel aelod o staff academaidd y Coleg Peirianneg. Rwy’n cydbwyso cyfrifoldebau fy ngwaith pob dydd yn y Brifysgol (sy’n cynnwys, ar hyn o bryd, helpu i gyflwyno rhaglen y cwrs gradd israddedig mewn Peirianneg Awyrofod) â gweithio fel ymgynghorydd i brosiect Bloodhound.
Sut brofiad yw bod yn rhan o dîm sy’n ceisio torri’r record am gyflymdra ar dir?
Gwaith caled sy’n llawn troeon emosiynol! Mae’r ffaith mai fi yw’r unig berson sy’n gyfrifol am yr holl waith o ddadansoddi dynameg hylifol gyfrifiadol cerbyd unigryw a chymhleth fel Bloodhound wedi golygu llwyth gwaith enfawr dros y degawd diwethaf (mewn prosiect masnachol ar y raddfa hon, gallech ddisgwyl y byddai tîm mawr o beirianwyr yn gwneud hyn). Wrth gwrs, os ydych chi wedi bod yn dilyn y prosiect, byddwch chi’n ymwybodol ei fod wedi cael nifer o droeon trwsgl yn ddiweddar, oherwydd arian yn bennaf.
A fydd y car yn torri’r record am gyflymdra ar dir?
Bydd – os bydd y prosiect yn parhau i gael ei ariannu! Rydyn ni’n hyderus dros ben bellach fod y car yn gallu cyrraedd cyflymdra uwch na’r record bresennol (763 mya). Y cwestiwn mawr yw pa mor bell y gallwn ni wthio’r car y tu hwnt i’r record (cyn i’r arian ddiflannu!)
Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried astudio yn Abertawe?
Mae Abertawe’n brifysgol wych mewn lleoliad hyfryd. Yn fy mhrofiad i (o safbwynt myfyriwr ac aelod staff), mae’r bobl yma’n hynod gyfeillgar ac mae ymdeimlad go iawn o gymuned. Mae’r cyfle i gael eich herio’n academaidd, a mwynhau safon byw wych ar yr un pryd, yn werth y byd, yn fy marn i!