Enillodd Caroline Bissardon PhD yn 2017, gan weithio rhwng Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Grenoble-Alpes, un o bartneriaid allweddol Abertawe, yn Ffrainc. Roedd ei thesis yn dwyn yr enw The role of Selenium in Articular Cartilage Metabolism, Growth and Maturation.
Caroline, sy’n hanu o Ffrainc yn wreiddiol, oedd yr unigolyn cyntaf i gwblhau PhD ar y cyd rhwng prifysgolion Abertawe a Grenoble. Yna derbyniodd wobr Menywod mewn Gwyddoniaeth L'Oreal – UNESCO, sy’n cydnabod cyflawniadau gwyddonwyr benywaidd eithriadol ledled y byd ac yn dyfarnu cymrodoriaethau iddynt er mwyn datblygu eu hymchwil.
Gan weithio ar y cyd â Chanolfan NanoIechyd Abertawe, Labordy ISTerre (Sefydliad Geocemeg) a Labordy STROBE, cyfleuster syncrotron blaenllaw Grenoble, mae ymchwil Caroline yn ymdrin â maes amlddisgyblaethol amrywiol, gan ddefnyddio daeareg, bioleg, bioffiseg, sbectrosgopeg a delweddu i ddadansoddi pwysigrwydd seleniwm i iechyd y cartilag.
Wrth esbonio ei hymchwil, meddai Caroline: “Mae seleniwm, sy’n elfen hydrin, yn cael ei ddosbarthu’n anghyfartal ar arwyneb y Ddaear; mae biliwn o bobl yn y byd yn dioddef o ddiffyg seleniwm. Yn Tsieina, mae astudiaethau daearegol ac epidemiolegol yn dangos cysylltiad cryf rhwng priddoedd â diffyg seleniwm a’r clefyd endemig Kashin-Beck, sy’n arafu twf yn ddifrifol ac yn achosi i gymalau ddatblygu’n gam.”
Bydd canlyniadau gwaith Caroline yn cael dylanwad y tu hwnt i Tsieina gan fod diffyg seleniwm mewn deiet yn effeithio ar iechyd miliynau o bobl ledled y byd, gan gynyddu eu risg o ddatblygu clefydau cronig. Meddai Caroline: “Rwyf wedi bod yn defnyddio model o aeddfediad cartilag cymalol sydd wedi fy ngalluogi i ddeall swyddogaeth seleniwm yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn o dwf, pan ddaw effeithiau’r clefyd Kashin-Beck i’r amlwg am y tro cyntaf.”
Mae Caroline wedi gwneud gwaith ymchwil ôl-ddoethurol rhwng sefydliad ymchwil cyhoeddus yn Ffrainc, sef INSERM, a Chanolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe ar rôl nanoronynnau seleniwm wrth amharu ar allu metastatig canserau ymosodol megis canser yr ofari a chanser y prostad.
Meddai: “Mae nanoronynnau seleniwm wedi bod yn denu llawer o sylw oherwydd eu bioargaeledd uchel, eu gwenwyndra isel iawn a’u nodweddion therapiwtig newydd o’u cymharu â rhywogaethau seleniwm organig (neu beidio) eraill. Er bod y sylw i’r maes hwn yn cynyddu, gwyddys ychydig iawn am y mecanwaith sy’n peri iddynt ymroi i’w gweithgarwch gwrthfetastatig (hynny yw, eu gallu i atal clefyd rhag lledaenu). Mae angen nodi elfennau allweddol er mwyn deall sut gall nanoronynnau seleniwm atal celloedd canser rhag mudo, a dilyn eu biotrawsffurfiant ar ôl iddynt gael eu hymgorffori yn y celloedd, gan ddefnyddio dulliau sbectrosgopig pelydr-X syncrotron.”
Ar hyn o bryd, mae Caroline yn gorffen rôl ôl-ddoethurol yn CEA-Grenoble, lle gwnaeth ddylunio a datblygu microsgop fflworoleuedd arwyneb golau i allu creu delweddau 3D a nodweddu’n weithredol ac yn forffolegol darddiad fascwlaidd sfferoid neu feithriniad organoid mewn cell microhylifegol o dan ddarlifiad parhaus. Mae’r gallu hwn i greu delweddau 3D yn gyflym o sampl fawr yn rhoi cyfle i’w hastudio ar yr un pryd.