Cafodd Elin Manahan Thomas ei geni yng Ngorseinon a'i haddysgu yn Ysgol Gyfun Gŵyr. Dechreuodd wersi canu yn chwe blwydd oed ac o'r dechrau, dywedodd ei hathro canu - a ddysgodd y tenor byd-enwog Denis O'Neill pan oedd yntau'n fachgen soprano ifanc - y gallai, mewn amser, fod yn gantores broffesiynol.
Yn ifanc yn ei harddegau ymunodd â Chôr Bach Abertawe. Yno, meistrolodd y grefft o ddarllen sgôr cerddoriaeth. Enillodd ysgoloriaeth gorawl i Goleg Clare yng Nghaergrawnt lle enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg. Aeth ymlaen i gwblhau MPhil, ac yn 2001 dilynodd astudiaethau llais ôl-raddedig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd Llundain.
Cafodd wahoddiad i ymuno â Chôr Montaverdi, dan Syr John Eliot Gardiner, ac yn 21 oed, hi oedd aelod ifancaf erioed y Côr.
Yn syth ar ôl iddi ymuno, aeth y Côr ar daith i Eglwysi Cadeiriol mawr Ewrop a wnaeth bara am flwyddyn. Roedd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys perfformiadau o holl gantatau crefyddol Bach, yn un o’r prosiectau diwylliannol uchel eu bri i ddathlu'r mileniwm yn y DU.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd ei gwahodd gan Syr John Eliot Gardiner i fod yr unawdydd cyntaf i recordio darn gan Bach a oedd newydd ei ddarganfod, Alles mit Gott, nad oedd wedi'i berfformio ers yn gynnar yn y 18fed ganrif, sy'n gwneud y recordiad yn un o bwysigrwydd hanesyddol.
Enillodd ei chymeradwyaeth fawr gyntaf am ei "Pie Jesu" ar recordiad arobryn NAXOS o Requiem Rutter a swynodd gynulleidfa o fwy na biliwn o wylwyr ledled y byd gyda pherfformiad o Eternal Source of Light Divine gan Handel yn Seremoni Agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain yn 2012. Rhoddodd berfformiad cyntaf y byd o Requiem Syr John Tavener yn Eglwys Gadeiriol Lerpwl ac mae hi wedi derbyn gwahoddiadau uchel eu bri i berfformio ym mhedwar ban byd.
Ond nid soprano fyd-enwog yn unig yw Elin Manahan Thomas. Mae galw mawr amdani hefyd fel cyflwynydd a darlledwr, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae hi wedi'i henwebu am wobr BAFTA ddwywaith.
Yn 2013, cyflwynodd Prifysgol Abertawe radd er anrhydedd i Ms Thomas. Wrth dderbyn ei gradd, meddai: "Rydw i wrth fy modd i dderbyn y Dyfarniad er Anrhydedd hwn ac rydw i wedi fy synnu'n llwyr ganddo. Fel merch wedi'i geni a'i magu yn Abertawe, gyda dau riant sydd wedi astudio yn y Brifysgol, a thad sydd wedi bod yn athro yma am flynyddoedd lawer, rydw i'n teimlo cysylltiad dwfn â'r Brifysgol.
"Fel plentyn treuliais lawer o ddiwrnodau'n chwarae ar y campws, yn ymweld â'r siop lyfrau a'r llyfrgell, ac yn enwedig yn mynd i ddigwyddiadau yn Taliesin. Mae teimlo fy mod yn rhan o hynny i gyd yn destun cyffro. Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol yn y blynyddoedd sydd i ddod ac at sefydlu cysylltiad cryf â staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae hi wir yn teimlo fel dod adref!"