Mae Gemma Turnbull, sy'n fam sengl 34 oed, yn cyfaddef nad oedd hi'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd pan oedd yn blentyn. Fodd bynnag, mae ei phenderfyniad i sicrhau dyfodol disglair iddi hi a'i theulu wedi ei galluogi i raddio gyda BA yn y Dyniaethau ar ôl astudio’n rhan-amser am chwe blynedd drwy Adran Addysg Barhaus Oedolion Prifysgol Abertawe.
Ar ôl gadael addysg y wladwriaeth heb basio’r un cwrs TGAU, aeth Gemma, o Sir Benfro, ymlaen i gael pedwar o blant, gan gynnwys Ruby, sy’n 11 oed, a anwyd â chyflwr ar ei chalon, a Joe, sy'n 15 oed ac sy’n awtistig.
Yn 2011, a hithau am sicrhau bywyd gwell, dechreuodd Gemma chwilio am gyfleoedd dysgu pellach, ond bu’n rhaid iddi oresgyn anawsterau eraill ar hyd y ffordd.
Yn fuan ar ôl dechrau Tystysgrif Sylfaen dwy flynedd, darganfu Gemma fod tri phlentyn ei chwaer ar fin cael eu rhoi dan ofal.
Daeth yn warcheidwad cyfreithiol Leonie, Shaun a Jack, gan olygu ei bod yn gyfrifol am saith o blant, a hithau'n 26 oed yn unig.
“Roedd bywyd yn eithaf llwm, a dweud y gwir,” meddai Gemma, y person cyntaf yn ei theulu i ddilyn addysg uwch.
“I ddechrau, roeddwn yn pryderu ynghylch sut byddwn yn ymdopi â bod yn fyfyriwr, ond doeddwn i ddim eisiau gwahanu fy nheulu. Roeddwn i am iddynt gael bywyd gwell, ac iddynt fod yn falch ohonof. Doeddwn i ddim eisiau i'm plant fod fel fi, yn tyfu i fyny heb addysg na swydd.
“Roeddwn i'n 26 oed, â saith o blant i ofalu amdanynt, ac roedd hynny'n anodd. Rwy'n cofio cwympo i gysgu yn yr ystafell ymolchi am 4am ar ôl ceisio ysgrifennu traethawd drwy'r nos – ond nawr rwyf wedi llwyddo."
Mae Shaun, ei nai 9 oed, yn dioddef o syndrom alcohol ffetws, sy'n effeithio ar ei ymddygiad, a chafodd Gemma ei hun ddiagnosis o ddyslecsia a dyspracsia yn ystod ei hastudiaethau. Torrodd ei phriodas yn ystod y cyfnod hwn.
“Roedd hi'n anodd cyfaddef fy mod wedi cael ysgariad, fel fy rhieni. Does neb eisiau hynny,” meddai Gemma. “Does gan y plant yr un dylanwad gwrywaidd i’w edmygu, ond gobeithio y gallaf eu helpu i fyw bywydau cadarnhaol. Ni fyddwn yn newid unrhyw beth – rhaid i chi wneud y gorau o'ch bywyd. Y peth gorau a wnes i erioed oedd cael y plant i gyd gyda fi o dan yr un to. Mewn gwirionedd, rwy'n ymdopi'n well â saith nag oeddwn i gyda phedwar!”
Wedi ennill ei gradd, mae Gemma eisoes wedi dechrau troi ei sylw at ei huchelgais nesaf.
“Rwy'n bwriadu pasio cyrsiau TGAU Mathemateg a Saesneg, ond byddaf yn defnyddio tiwtor preifat ar gyfer y rheiny. Yna rwy'n gobeithio mynd ymlaen i astudio TAR a bod yn athrawes ysgol gynradd,” meddai Gemma, sydd hefyd yn rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Harri Tudur ym Mhenfro.
“Gallwch wneud unrhyw beth os ydych yn rhoi eich bryd arno. Mae'r profiad cyfan wedi bod yn gadarnhaol iawn, yn enwedig o ran staff Prifysgol Abertawe a'u hagwedd tuag at fy helpu i. Pe bai fy athrawon yn yr ysgol wedi bod o’r un safon, byddwn wedi gwneud yn llawer gwell – maen nhw wedi bod yn anhygoel.
“Mae pob peth a wnaf er mwyn fy mhlant ac mae fy holl brofiadau wedi fy ngwneud yn fam well.”