Mae'r Athro John Manning yn gymrawd ymchwil er anrhydedd yn yr adran gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff.
Mae e'n adnabyddus yn bennaf am ei waith ar gymhareb bysedd (neu 2D:4D), h.y. hyd cymharol y mynegfys (2D) a'r bys modrwy (4D), fel bioddangosydd steroidau rhyw cyn geni. Mae ef wedi arloesi'r gwaith hwn drwy ymchwilio i gysylltiadau 2D:4D â mesurau amrywiol o ffrwythlondeb, iechyd ac ymddygiad. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae ef wedi cyhoeddi papurau niferus a dau lyfr sydd wedi ysgogi ymchwil i gymhareb bysedd ymhlith anifeiliaid a phobl.
Mae ef hefyd yn arbenigo mewn cymesuredd, gan gyfrannu at nifer o astudiaethau pwysig o bobl ac anifeiliaid, yn enwedig y cysylltiadau rhwng cymesuredd a chyflawniadau.
Sut dechreuodd eich diddordeb yn eich maes?
Biolegydd/seicolegydd esblygiad ydwyf. Roedd fy niddordeb gwreiddiol mewn materion bras yn ymwneud â gwreiddiau'r rhywiau ac esblygiad gwrywod a benywod. Erbyn diwedd y 1980au, roeddwn yn canolbwyntio ar niwroddatblygiad babanod a gwnes i gyhoeddi cyfres o bapurau ar ymddygiad crudo ymhlith epaod a phobl. O 1990, gwnes i ymchwilio i iechyd a chymesuredd a chymhareb bysedd yn benodol.
Beth hoffech i'ch gwaith ymchwil ei gyflawni?
Mae cymesuredd yn mesur sefydlogrwydd datblygiadol. Yng nghanol y 1990au, gwnes i gyhoeddi cyfres o bapurau ar anghymesuredd bronnau fel rhagarwydd o ganser y fron. Mae defnyddiau ymarferol bellach yn dod i'r amlwg. Mae cymhareb bysedd yn ffordd o fesur hormonau rhyw cyn geni. Rwyf wedi cyhoeddi gwaith ar y cysylltiad rhwng y gymhareb a chyflawniadau ym maes chwaraeon, awtistiaeth, clefydau'r galon, canser y fron, canser y brostad ac osteoarthritis.
Beth yw eich pwyslais ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd, rwy'n edrych ar anghydraddoldeb incwm a'i effaith cyn geni, gan gynnwys amrywiaeth o glefydau pwysig (e.e. clefydau cardiofasgwlaidd) a nodweddion ymddygiad (e.e. anhwylderau datblygu).