Gwnaeth Kate McMurdo, sy'n fam o Abertawe, gyfnewid gyrfa addysgu am radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe fel y gallai frwydro dros addysg ei mab awtistig. Graddiodd ym mis Rhagfyr 2019.
Roedd Kate a'i gŵr, Alastair, wedi wynebu cyfres hir o rwystrau wrth iddynt geisio rhoi'r cymorth a'r gofal angenrheidiol i Lewis, eu mab, gartref ac yn yr ysgol.
“Mae pob dydd yn frwydr os oes gennych chi blentyn anabl,” meddai Kate.
“Mae'r fiwrocratiaeth rydych yn ei hwynebu'n hunllef ac mae'n golygu bod teuluoedd fel ni dan anfantais ddifrifol. Roeddwn wedi blino ar yr holl frwydro a'r anghyfiawnder roeddem yn eu hwynebu fel teulu, felly cefais fy ysgogi i astudio'r gyfraith fel y gallwn helpu fy nheulu fy hun a theuluoedd tebyg i sicrhau eu hawliau a newid y sefyllfa o ran anableddau yng Nghymru a'r tu hwnt.”
Wrth iddi gyfuno ei hastudiaethau â gofalu am Lewis a magu ei merch tair blwydd oed, Isla, bu'n rhaid i Kate ac Alastair frwydro yn erbyn yr Awdurdod Addysg Lleol dros addysg eu mab.
Roeddent am i Lewis gael lle mewn lleoliad a allai ofalu am ei anghenion cymhleth ac yn y diwedd gwnaethant ennill eu brwydr iddo gael mynychu Canolfan Addysg Gwenllian yng Nghydweli, Abertawe, lle mae bellach yn ffynnu.
“Roedd yn gyfnod gofidus iawn,” meddai Kate. “Roeddwn i'n teimlo bod y system yn gwahaniaethu yn ein herbyn. Mae gan rieni plant prif ffrwd hawl i ymweld ag ysgolion gwahanol a mynegi dewis, felly dylai rhieni plant anabl allu gwneud hynny hefyd.
“Mae Gwenllian wedi bod yn hollol wych ac roedd y diwrnod pan glywais i y byddai Lewis yn cael mynd yno'n un o ddiwrnodau hapusaf fy mywyd. Yr ysgol a'i staff yw'r peth gorau sydd wedi digwydd i ni erioed. Mae'r profiad cyfan wedi trawsnewid ein bywydau.”
Er bod ei addysg wedi’i sicrhau, roedd Lewis yn dal i wynebu problemau iechyd ychwanegol a chafodd ei dderbyn i'r ysbyty nifer o weithiau wrth i Kate barhau â'i hastudiaethau.
Collodd hi dri mis o amser yn y brifysgol pan oedd lefelau ocsigen Lewis yn isel.
O ganlyniad, bu Kate yn absennol am gyfnod arholiadau craidd; felly, bu'n rhaid iddi sefyll naw arholiad mewn 10 niwrnod ym mis Awst. Llwyddodd ym mhob un ohonynt.
“Roeddwn i mor hapus pan ddywedodd fy nhiwtor fy mod i wedi pasio pob un,” meddai.
Nawr, hoffai Kate ddefnyddio ei harbenigedd er mwyn helpu teuluoedd eraill sy'n wynebu anawsterau tebyg.
“Y nod yw dod o hyd i leoliad a fydd yn meithrin ac yn parchu plant ag anawsterau dysgu, er eu mwyn nhw eu hunain. Ar hyn o bryd, mae'r cyllid ar gyfer ysgolion yn annigonol, felly dyw hyn ddim yn digwydd ac, yn y bôn, mae plant yn cael eu cosbi am ymddygiad sy'n gysylltiedig â'u hanableddau.
“Fy ngham nesaf yw ceisio astudio am PhD. Fyddwn i byth wedi gwneud hyn i gyd heb y cymhelliant a'r cariad sy’n deillio o fod yn fam Lewis, sydd yn fy ysgogi i geisio gwneud y byd yn lle gwell a mwy diogel iddo ef ac eraill.”