Yr Athro Lyn Evans
Mae Lyn ‘yr Atom’ Evans yn ffisegydd uchel ei fri o Gymru. Ers graddio, mae Lyn wedi cadw ei gysylltiadau â’r Brifysgol, gan gydweithredu â staff a chroesawu grwpiau o’r Brifysgol sy’n ymweld â CERN.
Ef oedd arweinydd y prosiect a oedd yn gyfrifol am adeiladu arbrawf gwyddonol mwyaf a drutaf y byd, y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr.
Daethoch i Brifysgol Abertawe ym 1963 i astudio Mathemateg Bur, Cemeg a Ffiseg. Beth yw eich atgofion am Brifysgol Abertawe yn y cyfnod hwnnw?
Rwy’n cofio’r Adran Ffiseg mewn sied bren yn yr un lleoliad bras lle mae Canolfan Taliesin nawr. Roedd yr Adran Cemeg yn newydd ac roedd ganddi’r enw gorau yng Nghymru. Felly, pan benderfynais ar Abertawe, dewisais i ganolbwyntio ar Gemeg yn hytrach na Ffiseg i ddechrau.
Gwnaethoch chi newid eich ffocws i Ffiseg yn y pen draw a graddioch chi o Abertawe gyda PhD mewn Ffiseg ym 1970. Sut dechreuodd eich cysylltiad â CERN?
Roedd cysylltiadau eithaf cryf eisoes rhwng Abertawe a CERN, gan ddechrau gydag Eifion Jones, a ymunodd ym 1959. Roedd goruchwyliwr fy PhD, yr Athro Colyn Grey Morgan, ar gyfnod sabothol yn CERN, felly ymunais i fel Cymrawd, ar gontract blwyddyn.
Dechreuoch chi weithio ar brosiect y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr (LHC) ym 1994. Allwch chi ddweud rhywbeth wrthym am ddatblygu’r LHC?
Ysgrifennais i fy mhapur technegol cyntaf am ddyluniad bras yr LHC ym 1983, ond doedd e ddim yn barod i’w gymeradwyo o bell ffordd. Yna, ym 1993, newidiodd yr ewyllys gwleidyddol a thyfodd awydd cryf iawn yn y gymuned wyddonol i archwilio’r math hwn o ffiseg gronynnau. Diben yr LHC yw helpu i ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf sylfaenol ym maes ffiseg nad ydynt wedi cael eu hateb eto, yn enwedig y ffordd y mae mecaneg cwantwm a pherthynoledd cyffredinol yn rhyngweithio. Mae’r LHC yn gydweithrediad rhwng mwy na 10,000 o wyddonwyr, cannoedd o brifysgolion a labordai a mwy na 100 o wledydd. Ces i fy mhenodi gan Gyngor CERN yn Gyfarwyddwr Prosiect â chyfrifoldeb am ei ddylunio a’i adeiladu. Cymerodd y broses adeiladu 14 o flynyddoedd, o 1994 pan gafodd y prosiect ei gymeradwyo’n ffurfiol, tan 2008 pan ddaeth yn weithredol am y tro cyntaf. Roedd y broses yn anos na’r disgwyl.
Beth mae’r LHC yn ei wneud?
Mae’r LHC yn beiriant gwrthdaro protonau a chanddo graidd ynni màs o 14 TeV. Mae’n gwneud defnydd anferth o uwchddargludedd gan ddefnyddio magnetau pwerus wedi’u hoeri i 1.9 gradd Celfin, sy’n *oerach na dyfnder y gofod*. Mae’r protonau’n gwrthdaro gan gynhyrchu digon o ynni i ail-greu amgylchiadau biliynfed ran o eiliad wedi’r glec fawr. Pan fydd ar waith, mae’r ynni sy’n cael ei gludo gan y ddau belydr yn cyrraedd 724MJ, sy’n gyfwerth â 173 cilogram o TNT. Mae saith synhwyrydd wedi’u gosod ar y pwyntiau croestoriadol lle rydyn ni’n cynnal yr arbrofion i ymchwilio i’r gwrthdrawiadau.
Mae Boson Higgs wedi ei ganfod nawr, felly beth sydd nesaf ar gyfer ffiseg gronynnau?
Chwilio am Foson Higgs oedd y flaenoriaeth gyntaf ar ein rhestr a chafodd y peiriant ei ddylunio i’w ddarganfod, beth bynnag y bo ei fàs. Nawr mae’n rhaid i ni astudio ei briodweddau’n fanwl yn ogystal â chwilio am ffiseg newydd a allai esbonio rhai o’r cwestiynau dwys sydd heb eu hateb o hyd. Mae’r rhain yn cynnwys yr anghymesuredd rhwng mater a gwrthfater sy’n gyfrifol am ein bodolaeth ein hun – yn ogystal â natur mater tywyll ac ynni tywyll.