Syr Terry Matthews yw biliwnydd cyntaf Cymru. Fe'i ganed yng Nghasnewydd a graddiodd o Brifysgol Abertawe ym 1969 gyda BA mewn Electroneg cyn bod yn flaenllaw wrth ddatblygu technolegau yn ystod y chwyldro technoleg gwybodaeth.
Ers 1972, mae wedi sylfaenu neu ariannu mwy na 100 o gwmnïau ac mae tri ohonynt wedi tyfu i fod yn werth mwy na $1.0B.
Ef yw sylfaenydd a chadeirydd Wesley Clover International, sy'n gwmni rheoli buddsoddiadau byd-eang preifat ac yn gwmni daliannol. Heddiw, mae gan Wesley Clover fuddiannau mewn amrywiaeth o gwmnïau technoleg SaaS a chwmwl i'r genhedlaeth nesaf, yn ogystal ag eiddo tirol ac eiddo hamdden dethol. Yn ogystal â Wesley Clover, Syr Terry yw cadeirydd nifer o'r cwmnïau preifat a chyhoeddus hyn hefyd, ac mae'n gyfarwyddwr ar fwrdd sawl cwmni arall.
Yng Nghymru, mae Syr Terry'n adnabyddus am fod yn berchen ar Celtic Manor, sef cyrchfan pum seren â chlwb golff cysylltiedig, yng Nghasnewydd. Mae ganddo gysylltiad penodol â'r cyrchfan – fe'i ganed yno yn ystod y cyfnod pan oedd yn lleoliad ysbyty geni.
Mae Syr Terry'n Gymrawd yn Sefydliad y Peirianwyr Trydanol ac Academi Frenhinol Peirianneg. Mae nifer o brifysgolion wedi cyflwyno doethuriaethau er anrhydedd iddo, gan gynnwys Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Carleton yn Ottawa. Ym 1994, fe'i penodwyd yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE), ac yn 2001, fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, fe'i hurddwyd yn Farchog Wyryf. Fe'i penodwyd hefyd yn Noddwr Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewrop yn 2011, ac yn Aelod o Urdd Canada yn 2017 am ei gyflawniadau rhagorol.
Yn 2012, anerchodd Syr Terry gynulleidfa yn y Brifysgol yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, gan ddatgelu rhai o gyfrinachau ei lwyddiant i fyfyrwyr a dweud bod tîm da a dyfalbarhad yn hanfodol. “Peidiwch â rhoi'r ffidil yn y to,” meddai. “Daliwch ati.”