Datganiad canmlwyddiant
2020 yw’r flwyddyn y dylai Prifysgol Abertawe fod yn dathlu ei chanmlwyddiant. Fodd bynnag, mae effeithiau rhyfeddol a dinistriol y pandemig ledled y byd, wedi cymryd blaenoriaeth eleni.
Ers agor ein drysau 100 mlynedd yn ôl rydym wedi arloesi, cydweithio a thyfu i fod yn sefydliad o'r radd flaenaf sy'n gwasanaethu ei chymuned, addysgu ei phobl, mynd i'r afael â phroblemau byd-eang a darparu cartref i lawer. Mae ein cyflawniadau wedi effeithio ar y byd mewn sawl ffordd, ac rydym yn hynod falch ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon yn ein hanes cyfoethog. Rydym bellach wedi penderfynu gohirio pob digwyddiad corfforol oedd gyda ni ar y gweill i nodi’r canmlwyddiant yn 2020. Er ein bod yn siomedig i beidio bod yn dathlu yn bersonol gyda chi, hoffem eich gwahodd i ymuno â ni ar ddydd Sul 19 Gorffennaf 2020 i goffáu dechreuadau'r gymuned ddysgu wirioneddol ryfeddol hon.
Cadwch y dyddiad : Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiadau y mae modd archebu lle ar eu cyfer yn hanfodol
CEFNOGI SWANSEA
Wrth i ni ddechrau ar ein hail ganrif, edrychwn yn ôl ar yr effaith y mae eich rhoddion wedi'i chael gyda diolch gwirioneddol. Gyda'n gilydd, rydym wedi gwneud camau enfawr mewn ymchwil feddygol, wedi creu amgylchedd gofalgar a chefnogol i'n myfyrwyr, wedi sicrhau bod gan ein labordai gyfarpar mwyaf diweddar, wedi creu profiad myfyrwyr o’r radd flaenafa llawer, llawer mwy. Wrth nodi’r cyfnod hwn o ddathlu a myfyrio, mae ein Prifysgol yn parhau i ganolbwyntio'n llawn ar arloesi, addysgu ac ysbrydoli ei phobl yn y ganrif nesaf a thu hwnt. Mae gennym ddyheadau mawr, a bydd cefnogaeth barhaus teulu Abertawe, gan unigolion ac ar y cyd, yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i'w cyflawni. Ni fu erioed gyfnod mwy cyffrous i gefnogi'ch Prifysgol.
Diolch yn fawr, ac edrychwn ymlaen at ddyfodol disglair a llwyddiannus gyda'n gilydd.
#EinHabertawe
Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch COVID-19 Ymchwil ac Caledi Myfyrwyr
ym Mhrifysgol Abertawe.
Ymwadiad
Yn seiliedig ar y rhestr o 131 o sefydliadau sy’n ymddangos yn y Times Good University Guide.