Mae 2020 yn cofnodi Canmlwyddiant Prifysgol Abertawe. Yn ystod y podlediad arbennig hwn, clywch gan hanesydd y Brifysgol, Dr Sam Blaxland wrth iddo archwilio agweddau ar ei hanes er mwyn taflu goleuni ar natur ehangach bywyd yn y Brifysgol yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch sut y caiff prifysgol ei sefydlu, sut mae cymunedau myfyrwyr a staff yn datblygu dros amser, a sut gall prifysgolion ddod yn ganolbwynt ar gyfer gwleidyddiaeth myfyrwyr a phrotestio. Mae’r podlediad hefyd yn archwilio rôl newidiol menywod ym mywyd y brifysgol.
Mae’r podlediad hwn yn cyd-fynd â llyfr Dr Sam Blaxland, Swansea University: Campus and Community in a Post-War World, 1945-2020 yn berffaith. Ymunwch â Dr Blaxland wrth iddo siarad â haneswyr eraill, aelodau o staff a myfyrwyr er mwyn creu darlun o fywyd yn y brifysgol drwy gydol y ganrif a mwynhau cerddoriaeth gan fand Prifysgol Abertawe (a recordiwyd yn ystod y 1960au). Mae hwn yn bodlediad ar gyfer unrhyw un â diddordeb ym myd addysg uwch a sut gall prifysgolion newid bywydau pobl yn sylfaenol.