Y llyfr
2020 yw blwyddyn canmlwyddiant Prifysgol Abertawe. I ddathlu hyn, mae Dr Sam Blaxland o’r Adran Hanes wedi ysgrifennu llyfr, Swansea University: Campus and Community in a Post-war World, 1945-2020. Mae wedi bod yn ymchwilio ac yn ysgrifennu’r llyfr am y tair blynedd a hanner diwethaf.
Nid astudiaeth o sefydliad yn unig yw’r llyfr, mae hefyd yn hanes cymdeithasol o Brydain ers 1945, sy’n canolbwyntio ar rai o brif themâu’r cyfnod, gan gynnwys natur newidiol diwylliant ieuenctid, mudiadau gwrthdystio a gwleidyddiaeth a’r ffordd mae prifysgolion wedi rhyngweithio â’u cymunedau, eu rhanbarthau, llunwyr polisi a’r byd ehangach.
Ar y cyd â dogfennau hanesyddol mwy traddodiadol a gedwir yn Archifau Richard Burton y Brifysgol, mae’r llyfr yn defnyddio bron 100 o adroddiadau llafar, a gasglwyd ers 2017 yn benodol ar gyfer y prosiect hwn. Fel rhan o’i ymchwil, siaradodd Sam â phobl o amrywiaeth enfawr o gyfnodau amser, meysydd pwnc a swyddi, gan gynnwys myfyrwyr, staff academaidd a staff anacademaidd megis technegwyr a staff gweinyddol. Mae lleisiau’r bobl a fu’n byw’r hanes hwn yn rhan hanfodol o ddadansoddiad y gwaith.
Mae rôl ganolog yr adroddiadau hanes llafar a’r ffaith bod Prifysgol Abertawe wedi newid mor sylfaenol yn sgil gwaith ailadeiladu wedi’r rhyfel yn ddau o’r prif resymau pam mae’r cyfnod sy’n destun y llyfr hwn yn dechrau ym 1945.
Yn ôl yr Athro William Whyte o Brifysgol Rhydychen, ‘mae’r llyfr yn ffrwyth ymchwil fanwl ac wedi’i ysgrifennu’n grefftus. Mae’n ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer cyn-fyfyrwyr, staff a myfyrwyr yn Abertawe ac mae’n haeddu cael ei ddarllen yn ehangach. Bydd yn apelio at holl haneswyr addysg uwch, llunwyr polisi ac arweinwyr prifysgolion, ac at bawb sy’n awyddus i ddysgu sut gallai’r gorffennol helpu i lywio dyfodol addysgu ac ymchwil yng Nghymru a’r tu hwnt.’
Gellir prynu’r llyfr gan yr holl gyflenwyr arferol, gan gynnwys yn uniongyrchol gan y cyhoeddwr, Gwasg Prifysgol Cymru.
Fodd bynnag, mae’n bleser mawr gan y Brifysgol gydweithredu â siop llyfrau annibynnol Abertawe, Cover to Cover, i werthu’r llyfr: sales@cover-to-cover.co.uk
Pobl
Penodwyd Dr Sam Blaxland yn Gymrawd Ôl-ddoethurol yn Adran Hanes Prifysgol Abertawe ym mis Tachwedd 2016. Ysgrifennodd draethawd ymchwil PhD yn yr adran rhwng 2013 a 2016. Cafodd ei eni a’i fagu yn Sir Benfro ac ers hynny mae wedi byw, gweithio neu astudio yng Nghaerdydd, Abertawe, Llundain a Rhydychen. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil ehangach yn hanes gwleidyddol a chymdeithasol Prydain. Mae hefyd yn sylwebu’n rheolaidd ar faterion cyfoes yn y cyfryngau darlledu Prydeinig a Chymreig, gan gynnwys fel arbenigwr yn y stiwdio yn ystod darllediad byw dros nos y BBC ar noson etholiad cyffredinol 2019. Mae wedi cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a phapurau newydd ac mae wedi siarad neu wedi cyflwyno papurau cynhadledd am ei ymchwil mewn lleoedd megis Llyfrgell Bodleian Rhydychen, Prifysgol Harvard a’r Senedd yn San Steffan.
Cysylltu
Os hoffech dderbyn gwybodaeth am y llyfr hwn, byddai Sam wrth ei fodd yn clywed gennych.
Manylion cyswllt:
E-bost Sam
Os hoffech brynu’r llyfr, e-bostiwch: sales@cover-to-cover.co.uk