Ar 20 Medi 2014, gwnaeth cyn-fyfyrwraig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau Becky Burgoyne gwrdd â'i phartner Joe Davies, pan oeddent yn rhannu llety ar drydydd llawr Preseli.
Atgof Becky
Chwe blynedd yn ôl, bron yn union i’r diwrnod, ar 20 Medi 2014, cwrddais i â'm partner Joe yn y cyntedd/alcof bach (ar y pen sydd agosaf i'r gegin) ar 3ydd Llawr adeilad Preseli ar Gampws Singleton lle buom ni'n dau yn byw yn ystod ein blwyddyn gyntaf. Roeddwn i yn 3/18 a Joe yn 3/05.
Nodyn i'r rhai a oedd yn byw yn ystafelloedd 06/16 – yr ail gegin roeddem ni'n eu galw pan oeddem ni yno!
Yn y chwe blynedd ers hynny, rydym ni wedi cwblhau ein graddau BA yn Abertawe, wedi symud i Swydd Efrog am flwyddyn, wedi symud yn ôl i Abertawe i gwblhau ein graddau MA, wedi symud i Lundain am flwyddyn, ac wedi symud yn ôl i Abertawe i fyw yn barhaol. Nid ydym ni byth wedi gallu gadael heb eisiau dod yn ôl i le cwrddon ni am y tro cyntaf.
Ar hyn o bryd, rwy'n cwblhau PhD mewn Astudiaethau'r Canol Oesoedd ym Mhrifysgol Bryste, ac mae Joe yn gweithio fel Ystadegydd i Lywodraeth Cymru.
Newidiodd y ffaith y clustnodwyd ystafell i mi ar y 3ydd Llawr fy mywyd mewn llawer o ffyrdd, ac roedd fy amser yn Abertawe yn well na'm disgwyliadau gorau posib am gynifer o resymau, ond y peth gorau heb os oedd cwrdd â Joe.
Alla i ddim â diolch i'r Gwasanaethau Preswyl ddigon am ein rhoi ni yn yr ystafelloedd hyn!
O.N. Rwy’ wedi cynnwys llun o'm fflat wedi'i gywasgu yn yr union alcof hwnnw! Rwy'n credu ei bod hi'n weddol glir cymaint roeddem ni'n dwlu ar Abertawe!
O.N. Ni yw'r rhai yn y ffrog werdd a'r dici-bô yn y llun olaf!